Wrecsam 1–0 Solihull
Cododd Wrecsam i frig Cynghrair Genedlaethol Lloegr gyda buddugoliaeth dros Solihull Moors ar y Cae Ras nos Fawrth.
Rhoddodd Paul Rutherford y tîm cartref ar y blaen chwe munud cyn yr egwyl ac fe brofodd hynny’n ddigon diolch i ambell arbediad da gan Chris Dunn yn yr ail hanner.
Mae’r canlyniad, ynghyd â cholled Dover oddi cartref yn Dagenham & Redbridge, yn codi’r Dreigiau i frig y tabl.
.
Wrecsam
Tîm: Dunn, Rutherford, Smith, Roberts, Carrington, Holroyd, Wright, Kelly (Hurst 90+1’), Wedgbury, Reid (Massanka 74’), Pearson
Gôl: Rutherford 39’
.
Solihull
Tîm: Townsend, Green, Bowen, Murombedzi (Hylton 60’), Daly, Kelleher, Carter, Carline (Bannister 73’), Richards, Asante, Thomas (Kettle 85’)
Cerdyn Melyn: Bowen 69’
.
Torf: 3,896