Caerdydd 2–0 Brentford                                                                  

Arhosodd Caerdydd yn dryddydd yn y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth yn erbyn Brentford yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.

Roedd goliau hanner cyntaf Joe Ralls a Danny Ward yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i’r Adar Gleision.

Wyth munud yn unig a oedd ar y cloc pan agorodd Ralls y sgorio, yn rhwydo wedi i dafliad hir Sean Morrison greu hafoc yng nghwrt cosbi Bentford.

Cafodd Neal Maupay gyfle euraidd i unioni pethau i’r ymwelwyr ddeg munud cyn yr egwyl ond er iddo fynd heibio gôl-geidwad Caerdydd, Neal Etheridge, methodd ganfod cefn y rhwyd.

Manteisiodd yr Adar Gleision yn llawn gan ddyblu eu mantais funud yn ddiweddarach, Ward yn sgorio wedi gwaith da Bruno Ecuele Manga.

Brentford a gafodd y gorau o’r gêm wedi’r egwyl ond llwyddodd Caerdydd i gadw gafael ar eu llechen lân i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Mae’r canlyniad yn cadw tîm Neil Warnock yn drydydd yn y tabl, bedwar pwynt y tu ôl i Wolves ar frig y Bencampwriaeth.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Bennett, Damour (Gunnarsson 69’), Bryson, Ralls, Feeney (Paterson 73’), Ward (Gounongbe 80’), Hoilett

Goliau: Ralls 8’, Ward 36’

Cardiau Melyn: Feeney 59’, Ecuele Manga 84’

.

Brentford

Tîm: Bentley, Clarke, Egan, Bjelland, Barbet, Yennaris, Woods (McEachran 77’), Jozefzoon (Canos 60’), Sawyers, Watkins, Maupay (Vibe 61’)

.

Torf: 16,335