Fe fydd tîm pêl-droed Abertawe yn ceisio cynnal eu record ddi-guro yn Turf Moor y prynhawn yma wrth iddyn nhw herio Burnley yn Uwch Gynghrair Lloegr (3 o’r gloch).

Byddai llwyddo i wneud hynny’n golygu bod yr Elyrch yn codi allan o’r safleoedd disgyn unwaith eto.

Ond mae cryn her yn eu hwynebu i guro’r tîm sy’n seithfed yn y tabl ar hyn o bryd ar ôl sicrhau 19 pwynt yn eu 11 gêm hyd yn hyn.

Dim ond gwahaniaeth goliau sy’n gwahanu Burnley, Arsenal a Lerpwl ar hyn o bryd.

 

 

 

Y tîm

Yn dilyn cyfres o anafiadau ymhlith y garfan, mae’r Elyrch wedi cael hwb cyn y daith o wybod fod Wilfried Bony, Renato Sanches, Martin Olsson, Leon Britton a’r capten newydd Angel Rangel i gyd yn holliach.

Ond dydy hi ddim yn glir eto a fydd Leon Britton ar y cae neu wrth ymyl y prif hyfforddwr Paul Clement ar gyfer y gêm, a hynny ar ôl cael ei benodi’n hyfforddwr cynorthwyol yn dilyn ymadawiad Claude Makelele.

Yr unig absenoldeb ymhlith y garfan yw’r amddiffynnwr canol, Kyle Bartle.

‘Disgwyl gêm dynn’

Ar drothwy’r gêm, dywedodd Paul Clement: “Mae gan y ddau dîm amddiffyn eitha’ da.

“Dw i’n disgwyl gêm dynn lle mai’r tîm sy’n llwyddo i reoli pethau orau fydd yn fuddugol.

“Dw i’n synhwyro awyrgylch da a phositif – ry’n ni’n barod ar gyfer y gêm hon.”