Mae’n bosib mai’r gêm heno (Tachwedd 14) rhwng Cymru a Panama, fydd y gêm olaf â Chris Coleman wrth y llyw.

 chytundeb y rheolwr yn dod i ben ar ddiwedd y mis, mae cefnogwyr yn sicr fod yn aros yn eiddgar i ddarganfod os fydd Cymdeithas Pêl-droed Cymru (FAW) yn caniatáu iddo aros am hirach.

Mae’n debyg bod yna anghydfod rhwng yr FAW a Chris Coleman dros awydd y rheolwr i ddiogelu cytundebau llawn amser i aelodau o’i staff cynorthwyol.

“Mae hyn fyny i’r pwerau sydd ohoni, nid fy mhenderfyniad i yw e,” meddai Chris Coleman. “Maen nhw’n gwybod lle dw i’n sefyll a sut dw i’n gweld pethau.

“A sut dw i eisiau gweithio, a gyda phwy dw i eisiau gweithio. Ond efallai bod nhw ddim yn gweld pethau yn yr un ffordd ag yr ydw i. Efallai dydyn ni ddim yn canu o’r un ddalen emynau.”