Mae Angel Rangel, y cefnwr de o Gatalwnia, wedi cael ei benodi’n gapten ar Glwb Pêl-droed Abertawe.

Mae’n olynu Leon Britton, sydd wedi’i benodi’n hyfforddwr cynorthwyol yn dilyn ymadawiad Claude Makelele.

Mae Angel Rangel wedi chwarae mewn 370 o gemau i’r Elyrch dros gyfnod o ddegawd ers symud o glwb Terrassa yn 2007.

Mae’n cael ei ystyried yn un o hoelion wyth y clwb, er mai un gêm yn unig mae e wedi chwarae ynddi y tymor hwn – a honno yn erbyn Crystal Palace ym mis Awst.

‘Anrhydedd fawr’

Yn dilyn ei benodiad, dywedodd Angel Rangel ei bod hi’n “anrhydedd fawr” cael olynu Leon Britton.

“Gobeithio y galla i helpu cymaint â phosib ar y cae ac oddi arno.

“Dw i wrth fy modd ac yn falch iawn o gael derbyn y rôl a bydda i’n ceisio fy ngorau.

“Roedd gen i lawer o freuddwydion i’w gwireddu pan ddes i yma. Un ohonyn nhw oedd bod yn chwaraewr yn yr Uwch Gynghrair, a dw i wedi gwireddu honno.

“Do’n i byth wedi meddwl y byddwn i’n gapten, ond dw i’n falch ac mae’n anrhydedd, a dw i’n llawn brwdfrydedd ar ôl cael y cyfle hwn.

“Mae Abertawe yn fy nghalon, ry’ch chi’n gwybod hynny. Dw i’n caru’r clwb a’r peth pwysicaf yw ein bod ni’n aros yn yr Uwch Gynghrair eleni.”

‘Profiad a gwasanaeth ardderchog’

Mae Angel Rangel yn ymuno â rhestr sylweddol o chwaraewyr sydd wedi arwain y clwb. Yn eu plith mae Leon Britton, Ashley Williams, Garry Monk a Roberto Martinez.

Ac yn ôl Paul Clement, fe oedd y dewis cywir.

“O ystyried ei oedran, ei brofiad a’i wasanaeth ardderchog i’r clwb dros gyfnod o nifer o flynyddoedd, Angel yw’r dewis cywir i fod yn gapten y clwb.

“Mae e’n esiampl wych ac yn broffesiynol iawn, a gall y chwaraewyr eraill ei efelychu.

“Mae ei ymroddiad i’r clwb yn amlwg ac mae’r agwedd sydd ganddo fe bob dydd yn dda iawn. Ry’n ni’n falch iawn o’i gael e’n gapten newydd y clwb.”