Mae capten tîm pêl-droed Abertawe, Leon Britton wedi’i benodi’n hyfforddwr cynorthwyol newydd y clwb.

Daw’r penodiad yn dilyn ymadawiad Claude Makelele, sydd wedi’i benodi’n rheolwr ar dîm K.A.S. Eupen yng Ngwlad Belg.

Bydd y chwaraewr canol cae 35 oed yn parhau i chwarae, ond mae’n ildio capteniaeth y clwb.

Bydd e’n ymuno â Paul Clement, Nigel Gibbs, Karl Halabi a Tony Roberts ar staff hyfforddi’r clwb.

‘Perffaith’

Yn ôl Paul Clement, Leon Britton yw’r person perffaith i ymgymryd â’r swydd, ac yntau’n paratoi ar gyfer trwydded hyfforddi A gan Uefa.

Ymunodd e â’r clwb yn 2002, gan chwarae mewn 525 o gemau yn ei ddau gyfnod gyda’r clwb, gan chwarae ym mhob adran yn y Gynghrair Bêl-droed.

Dywedodd Paul Clement: “Dw i wrth fy modd fod Leon wedi cytuno i ymgymryd â rôl chwaraewr-hyfforddwr cynorthwyol.

“Dyma ddechrau pennod newydd yn ei yrfa.

“Dw i’n teimlo mai fe yw’r person perffaith ar gyfer y rôl ar hyn o bryd. Mae e’n sicr yn dal yn rhan o’m cynlluniau fel chwaraewr ond bellach, gallwn ni dynnu ar ei wybodaeth fel hyfforddwr hefyd. Mae ganddo fe dipyn i’w gynnig yn yr ystyr hynny.

“Mae e bellach yn rhan o’r holl gyfarfodydd rheol ac ar ddiwrnodau pan na fydd e’n ymarfer, bydd e’n rhan o’r strwythur hyfforddi.

“Yn yr un modd, ar ddiwrnodau gemau, pe bai e yn y garfan, bydd e’n canolbwyntio ar chwarae. Os na, bydd e yn y cwt fel rhan o’r staff hyfforddi.

“Mae gan Leon berthynas wych gyda’r chwaraewyr ac mae ganddo fe berthynas arbennig gyda chefnogwyr y clwb hwn.

“Mae e’n gwybod yn fwy na neb beth mae chwarae i’r clwb hwn yn ei olygu.”

‘Diolch’

Mae Paul Clement hefyd wedi diolch i Claude Makelele am ei gyfraniad i’r clwb dros gyfnod o ddeng mis.

“Roedd ei wybodaeth, ei brofiad ac yn arbennig y berthynas fagodd e gyda’r chwaraewyr yn bositif iawn, iawn.

“Galla i ddeall ei ddymuniad i ymgymryd â rôl prif hyfforddwr, a dw i’n dymuno’n dda iddo fe yn y cyfnod nesaf yn ei yrfa. Byddwn ni’n dilyn canlyniadau Eupen o Abertawe.”