Roedd dros 2,000 o gefnogwyr Cymru ym Mharis nos Wener yn gwylio’r gêm gyfeillgar yn erbyn Ffrainc.

Yn eu plith oedd Gwyn Evans, sy’n wreiddiol o Fachynlleth ond nawr yn byw yn Llanllieni (Leominster).

Mi welodd Gwyn Evans ei gêm gyntaf gartref yn erbyn yr hen elyn Lloegr yn 1980, ac am gêm i’w fynychu – enillodd Cymru 4-1. Gwnaeth Gwyn Evans fentro oddi cartref am ei gêm gyntaf i San Marino yn 2007 a dim ond tua hanner dwsin o gemau oddi cartref mae wedi eu methu ers hynny.

“Roeddwn yn gobeithio am gêm gyfartal nos Wener neu o leiaf peidio cael cweir. Roedd Ffrainc yn edrych yn dîm da am yr awr gyntaf, dwi’n tybio roedden nhw’n dangos gormod o barch iddynt, roedd yn wych i weld Ethan Ampadu, David Brooks a Ben Woodburn yn dod ar y cae, roedden nhw’n chwarae heb ddim ofn.

Golwr

“Rwy’n sicr bod gennym broblemau gyda’r golwr, mae Wayne Hennessey wedi colli’i le yn nhim Crystal Palace, mae o hefyd wedi bod ar fai am dipyn o’r goliau rydan ni wedi ildio’n ddiweddar a tydi Danny Ward ddim yn chwarae o gwbl  i Lerpwl. Hefyd doeddwn i ddim eisiau meddwl ein bod ni yn dibynnu ar Gareth Bale ond rydan ni ddim yr un tîm hebddo.

“Dwi’n gobeithio bydd y chwaraewyr ifanc yn dechrau yn erbyn Panama nos Fawrth, beth am Marley Watkins a Tom Bradshaw, rydan ni ddim yn gwybod be maen nhw’n gallu gwneud, os nad ydyn nhw’n cael  cyfle beth ydy’r pwynt  o’u cael nhw yn y garfan a dim rhoi amser iddyn nhw ar y cae. Un arall ydy Tom Lockyer  -rwy’n cefnogi Amwythig a welais o ddechrau tymor i Bristol Rovers – wnaeth ddim creu argraff arna i ond, un gêm oedd hynna.”

Mae gwerthiant y tocynnau am nos Fawrth yn siomedig ar hyn o bryd gyda chefnogwyr yn dadlau ar y cyfryngau cymdeithasol am brisiau’r tocynnau.

Pris tocyn

“Mae pris y tocyn yn £20 i oedolyn a £5 i blant, hyd yn oed pe bai yn £10 dwi’m yn meddwl buasai wedi gwneud gwahaniaeth i’r dorf, dwi’n meddwl er bod Panama yng Nghwpan y Byd 2018,maen nhw’n dipyn o ddirgelwch, dim digon  o atyniad i rai. Hefyd gyda’r tîm o-dan 21 yn chwarae ym Mangor am 18.00 mewn gêm ragbrofol mae nifer o’r Gogledd am gefnogi nhw.

“Rwy’n meddwl bod sefyllfa’r rheolwr Chris Coleman yn creu ansicrwydd, mae’r cefnogwyr yn haeddu cael gwybod beth mae o am neud – yn bersonol rwy’n gobeithio mai aros fydd ei benderfyniad. Rwyf wir yn meddwl ar hyn o bryd bod neb arall ar gael i gymryd ei le,” meddai.