Mae chwaraewr canol cae tîm pêl-droed Abertawe, Roque Mesa wedi dweud ei fod e “eisiau llwyddo” gyda’r Elyrch.

Daw ei sylwadau yn dilyn trafodaethau gyda’r prif hyfforddwr Paul Clement ynghylch ei ddyfodol.

Symudodd y Sbaenwr o Las Palmas am £11 miliwn dros yr haf, ond prin fu ei gyfleoedd ar y cae dros y misoedd diwethaf ac yntau wedi dechrau un gêm yn unig.

Mae adroddiadau’n ddiweddar wedi ei gysylltu â throsglwyddiad yn ôl i’w hen glwb wrth i’r Elyrch ddarganfod eu hunain yng ngwaelodion Uwch Gynghrair Lloegr.

Dywedodd Roque Mesa fis diwethaf y byddai’n ystyried ei ddyfodol eto ym mis Ionawr pe bai e’n dal ar y cyrion.

Ond mae’n ymddangos bellach ei fod e wedi gwneud tro pedol.

“Dw i’n dawel fy meddwl”

Dywedodd Roque Mesa wrth orsaf radio Canarias yn Sbaen: “Dw i’n dawel fy meddwl. Nid dyma’r tro cyntaf i fi beidio â chael parhad.

“Dw i’n gwybod y bydd gweithio’n sicrhau’r munudau sydd eu hangen arna i, a bydd fy sefyllfa’n newid.

“Dw i’n gwybod sut mae hyn yn gweithio.

“Dw i’n credu bod y cyfnod o addasu i Abertawe eisoes wedi digwydd, pêl-droed yw hyn, ond dw i’n barod i ddibynnu ar funudau.”

Serch hynny, ychwanegodd ei fod yn “parchu penderfyniad yr hyfforddwr” ynghylch y chwaraewyr sy’n cael eu dewis i fynd ar y cae.

“Siaradais i â [Paul] Clement ychydig yn ôl, ac fe ddywedodd ei fod e’n cyfri arna i.”

Dychwelyd i Las Palmas?

Dywedodd Roque Mesa ei fod yn “ddiolchgar” i gefnogwyr Las Palmas am fod yn barod i’w groesawu’n ôl, ond bod ei ddyfodol gydag Abertawe.

“Mae fy amser gyda Las Palmas ar ben a nawr dw i’n cefnogi’r tîm o fan hyn.

“Dw i ddim yn meddwl am ddychwelyd, oherwydd dw i eisiau llwyddo yn Abertawe.”