Wrth i’r pwysau ar brif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement gynyddu, mae e wedi wfftio’r awgrym y gallai dewis rhai o’r hoelion wyth yng nghanol y cae gynnig yr ateb i’w broblemau.

Fe ddywedodd yr wythnos ddiwethaf fod ganddo fe ormod o ddewis yng nghanol y cae, a dim digon o ddewis mewn mannau eraill o’r cae.

Ond ymhlith y chwaraewyr hynny y gall ddewis ohonyn nhw, mae ganddo fe rai hen wynebau, gan gynnwys capten y clwb Leon Britton, Wayne Routledge, Nathan Dyer a Leroy Fer.

“Dw i ddim yn barnu chwaraewyr yn ôl pa mor hir maen nhw wedi bod gyda’r clwb, neu yn ôl a ydyn nhw’n hen chwaraewyr neu’n chwaraewyr newydd,” meddai wrth golwg360.

“Maen nhw’n rhan o’r garfan ac os ydyn nhw’n ffit ac yn ymarfer, maen nhw ar gael – o’r chwaraewr sydd wedi bod yma hwyaf i’r chwaraewr mwyaf newydd. Dw i ddim yn meddwl yn nhermau hynny.”

Chwaraewyr newydd

Dydy Sam Clucas, a gostiodd hyd at £16m o Hull, na Roque Mesa, a gafodd ei brynu am £11m o Las Palmas, ddim wedi ymddangos yn gyson yn y tîm y tymor hwn.

Tra bod Roque Mesa wedi dangos ei anfodlonrwydd drwy’r wasg yn Sbaen, mae Sam Clucas yn wynebu’r posibilrwydd bellach o gael ei gynnwys yn y tîm fel cefnwr chwith yn absenoldeb Martin Olsson, sydd wedi anafu llinyn y gâr.

Gwerth chwaraewyr

Dydi sefyllfa’r naill chwaraewr na’r llall ddim yn ddelfrydol, ond mae Paul Clement yn dweud nad yw pris y chwaraewyr sydd allan o’r tîm yn ei boeni.

“Yn amlwg, dydych chi ddim eisiau gwario llawer o arian ar chwaraewr sydd ddim yn mynd i fod yn y tîm,” meddai. “Rhaid i chi edrych ar y perfformiad yn y tymor byr, o wythnos i wythnos ac o un gêm i’r llall.

“Pan fyddwch chi’n cael y cyfnodau hyn lle dydych chi ddim yn chwarae’n dda iawn, fe fydd y dorf yn galw am Leon Britton.

“Iawn, mae e’n chwaraewr da ac mae e yn y tîm, ac wedyn byddan nhw’n galw am Roque. Pe bai e mor syml â hynny, gallai unrhyw un wneud beth dw i’n ei wneud a bod yn rheolwr.

“Dyw e ddim yn syml. Mae’n gymhleth iawn gyda llawer o ddeinameg wahanol yn digwydd a dyna dw i a fy staff yn treulio tipyn o amser yn meddwl amdano. Ond pe bai e mor syml â rhoi Leon yn y tîm a byddai popeth yn iawn… dyw e ddim yn gweithio fel’na.

“Dw i ddim yn dewis tîm yn seiliedig ar werth y chwaraewr, pa un a yw chwaraewr ar fenthyg yma neu a yw chwaraewr yn hen neu’n ifanc. Dw i’n eu dewis yn ôl yr hyn dw i’n ei weld yn yr ymarferion a’r hyn sydd orau ar gyfer y gêm sydd i ddod.”