Fe fydd Clwb Pêl-droed Barcelona yn aros yn La Liga – prif adran Sbaen – hyd yn oed pe bai Catalwnia’n mynd yn wlad annibynnol.

Dyna neges llywydd y clwb Josep Maria Bartomeu, yn ôl gwefan ESPN.

Mae amheuon wedi’u codi am ddyfodol y clwb yn y gynghrair wrth i Gatalwnia wthio am annibyniaeth.

Dywedodd Gweinidog Chwaraeon Catalwnia, Gerard Figueras yn ddiweddar y byddai’r clwb yn ceisio cyfleoedd newydd mewn gwlad annibynnol.

Ond yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y clwb, dywedodd fod Barcelona yn cadw ei statws yn La Liga doed a ddêl, er bod llywydd y gynghrair, Javier Tebas wedi awgrymu i’r gwrthwyneb.

Beth bynnag sy’n digwydd, mae’r sefyllfa wleiddydol bresennol yn debygol o ddwysáu’r tyndra rhwng Barcelona a Real Madrid pan fydd y gêm El Clasico nesaf yn cael ei chynnal yn y Bernabeu ar Ragfyr 20.