Bydd clybiau’r Cymru Alliance yn cael seibiant o’r gynghrair i ganolbwyntio ar rownd gyntaf Cwpan  Cynghrair Huws Gray dros y penwythnos.

Mae dwy gêm dderbi ar y gorwel gyda’r Cofis yn teithio i Borthmadog a Threffynnon yn herio’r Fflint.

Porthmadog v Caernarfon

Mae’r Cofis wedi cael dechrau da i’r tymor  ac maen nhw yn un o’r ceffylau blaen yn eu cynghrair. Hefyd nhw yw deiliaid y cwpan ac maen nhw wedi ei chodi yn nhri o’r pedwar tymor diwethaf.

Nid yw Porthmadog wedi cyrraedd y ffeinal ers 2011, pan gollon nhw 3-0 i Gegidfa.

Ond mae’r clwb o’r Traeth wedi ennill y cwpan yn 1999 a’r tro diwethaf oedd yn 2003 yn erbyn Bwcle.

“Mae’n gêm dderbi, ac mae’n un rydan eisiau ennill,” meddai  rheolwr Port, Craig Papyrnik wrth golwg360.

“Rydan ni wedi bod yn siomedig dros y blynyddoedd mewn  cwpanau, felly rwy’n gobeithio mai hon ydy blwyddyn ni. Bydd yn gêm galed, ond rydan ni gartref, felly gobeithio cawn fuddugoliaeth.

“Roeddwn yn siomedig â’r newyddion wythnos yma fod ein hyfforddwr, Ioan Llewelyn yn gadael y clwb. Roeddwn yn mwynhau gweithio gyda fo, ond mae wedi cael cyfle i fod yn rheolwr Llanfairpwll, felly pob lwc iddo.”

Treffynnon v Y Fflint

Mae Treffynnon hefyd wedi cael dechrau da i’r tymor ac yn y drydydd yn y gynghrair.

“Rydan ni wedi cael dechrau da, dim ond wedi colli un gêm, a phe bai ni wedi ennill mwy  o gemau buasai’n agosach i’r ceffylau blaen,” meddai Steve Roberts, Ysgrifennydd y clwb wrth golwg360. “Bydd yn dipyn o gêm brynhawn dydd Sadwrn. Pum milltir sydd rhwng Treffynnon a’r Fflint, ac am 90 munud bydd dim ffrindiau ar y cae. Y pechod ydy bod y gêm ddim ar nos Wener, dw i’n siŵr bydda mwy o dorf yno.

Roedd gobeithion mawr gan y Fflint ar ddechrau’r tymor gyda chyn-chwaraewr Cymru Andy Holden yn cymryd yr awenau. Ond dechrau siomedig maen nhw wedi cael ac yn ddiweddar mi adawodd Andy Holden y clwb, ac mae Aden Shannon wedi ei benodi yn rheolwr dros dro.

Gemau rownd gyntaf Cwpan Cynghrair  Huws Gray:

Nos Wener

Airbus v Rhuthun

Dydd Sadwrn

Caersws v Gresffordd

Caergybi v Cegidfa

Treffynnon v Y Fflint

Cyffordd Llandudno v Dinbych

Porthmadog v Caernarfon

Dydd Sul

Queens Park v Y Rhyl