Chris Coleman (llun:Joe Giddens/PA)
Mae’n bosib fod gan hyfforddwr carfan pêl droed Cymru, Chris Coleman, ddiddordeb mewn ymuno â chlwb Dinas Caerlŷr, yn ôl cyn ymosodwr y clwb hwnnw.

Dim ond neithiwr, fe benderfynodd y Llwynogod, sydd ar hyn o bryd ar waelod tabl yr Uwch Gynghrair, ddiswyddo ei hyfforddwr, Craig Shakespeare – a hynny pedwar mis ar ôl ei benodi.

Ac yn ôl y sylwebydd Iwan Roberts, a fu’n chwarae i’r clwb rhwng 1993 a 1996, mae yna bosiblrwydd cryf y gall Chris Coleman ddychwelyd at hyfforddi ar lefel clwb, wrth i Gaerlŷr chwilio am hyfforddwr newydd.

Meddai wrth y BBC: “A fydd gan Chris ddiddordeb? Dw i’n meddwl hynny.”

“Dydy o ddim yn gyfrinach ei fod o am ddychwelyd at bêl-droed ar lefel clwb, ac mae Caerlŷr yn glwb da.”

“Wrth gwrs, fe fydd yn siomedig gweld Chris Coleman yn gadael carfan Cymru, ond dw i’n medru deall os ydy o eisiau ymuno â chlwb yn yr Uwch Gynghrair.”

Daw’r sylwadau hyn wrth i Chris Coleman bendroni dros ei ddyfodol gyda charfan Chymru, gyda’i gytundeb presennol fel hyfforddwr yn dod i ben ddiwedd mis Tachwedd.

Mae nifer eisoes wedi galw arno i aros, gan gynnwys Cymdeithas Pêl-droed Cymru ac aelodau blaenllaw o’r garfan, ond nid yw Chris Coleman wedi gwneud datganiad at y mater eto.