Casnewydd 1–2 Colchester
Colli fu hanes Casnewydd wrth i Colchester ymweld â Rodney Parade yn yr Ail Adran nos Fawrth.
Sgoriodd yr ymwelwyr ddwy waith mewn pum munud yn yr ail hanner ac roedd hynny’n ddigon er i Gasnewydd dynnu un yn ôl.
Wedi hanner cyntaf di sgôr bu rhaid aros tan ddeunaw munud o’r diwedd am y gôl agoriadol pan rwydodd Ryan Jackson yn erbyn ei gyn glwb.
Dyblodd Mikael Mandron fantais Colchester bum munud yn unig yn ddiweddarach o gic rydd Sean Murray.
Rhoddodd Shaun McCoulsky lygedyn o obaith i’r Alltudion bum munud o’r diwedd ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi wrth i’r ymwelyr ddal eu gafael ar y tri phwynt.
Mae Casnewydd yn aros yn chweched yn nhabl yr Ail Adran er gwaethaf y golled.
.
Casnewydd
Tîm: Day, White, Bennett, Demetriou, Pipe (McCoulsky 76’), Labadie (Rigg 15’), Dolan (Reynolds 78’), Tozer, Butler, Amond
Gôl: McCoulsky 86’
.
Colchester
Tîm: Walker, Kent, Eastman, Inniss, Jackson, Loft (Lapslie 45’), Comley, Murray, Vincent-Young (Kinsella 35’), Hanlan (Odelusi 85’), Mandron
Goliau: Jackson 72’, Mandron 77’
Cerdyn Melyn: Kinsella 85’
.
Torf: 2,704