Joe Allen (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)
Mae gobaith Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd 2018, ar ben.

Fe gollodd y crysau cochion 0-1 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno, gyda’r ymwelwyr yn sgorio yn gynnar yn yr ail hanner.

Dydi Cymru erioed wedi llwyddo i guro Gweriniaeth Iwerddon mewn gêm gystadleuol.

Roedd hi’n gêm gorfforol iawn a welodd Joe Allen yn gadael y maes ychydig cyn hanner amser, wedi iddo daro ei ben ar y llawr ar ôl cael ei wthio gan y Gwyddel, James McClean.

A’r un James McClean oedd yn gyfrifol am sgorio unig gôl y gêm ar ôl 57 munud.

Tempo cyflym

Ar ôl hanner cyntaf di-sgôr, fe gafwyd ail hanner cyflym a welodd Aaron Ramsey, Ben Davies a Hal Robson-Kanu yn dod yn agos at sgorio i Gymru.

Fe ddaeth yr ymosodwr ifanc, Ben Woodburn, i’r maes ar ôl 64 munud yn lle Andy King.

Ar 70 munud, fe darodd Aaron Ramsey y trawst wedi pas dda gan Chris Gunter, ac fe ddaeth Sam Vokes ymlaen yn lle Hal Robson-Kanu.

Fe gafodd Aaron Ramsey gyfle gwych i sgorio o gic rydd ar 83 munud, ond fe aeth ei ergyd i’r eisteddle. Fe ddaeth gobaith eto wrth i Ben Woodburn basio pêl dda i Jonny Williams ar y postyn pellaf, ond ddaeth yna ddim gôl.

Roedd amddiffyniad solet Gweriniaeth Iwerddon yn effeithiol reit tan ddiwedd y pum munud ychwanegol, yn canolbwyntio yn bennaf ar gau Ben Woodburn i lawr.