“Hon yw Oes Aur pêl-droed Cymru”, yn ôl y rheolwr Chris Coleman ar drothwy gêm fawr Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yng Nghaerdydd nos Lun.

Ar ôl curo Georgia o 1-0 nos Wener, fe allai gêm gyfartal – ac un pwynt – fod yn ddigon i sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd yn Rwsia y flwyddyn nesaf, a hynny am y tro cyntaf ers 1958.

Ar ôl i Serbia golli o 3-2 yn erbyn Awstria, gallai Cymru orffen ar frig y tabl pe baen nhw’n curo Gweriniaeth Iwerddon a Serbia yn colli neu’n cael gêm gyfartal yn erbyn Georgia.

“Does gan 1958 ddim byd i’w wneud â’r garfan hon,” meddai Chris Coleman mewn cynhadledd i’r wasg y prynhawn yma.

“Gallwch chi edrych yn ôl a tharo’r chwaraewyr ar eu pennau a dweud, “Dydyn ni erioed wedi gwneud hwn a’r llall”. Ond doedd y chwaraewyr hyn ddim ynghlwm [wrth Gwpan y Byd 1958]. Dydyn nhw ddim wedi bod ym mhob carfan ers 50 neu 60 o flynyddoedd.

“Ond dyma’u hamser nhw. Maen nhw’n ceisio gwneud eu gorau dros eu gwlad. Maen nhw’n gwneud jobyn arbennig, a byddan nhw’n canolbwyntio ar nawr, nid y gorffennol. Maen nhw’n chwarae dros Gymru nawr.

“Dydyn ni ddim yn siarad am unrhyw beth heblaw’r hyn sydd angen i ni ei wneud nawr. Mae hon yn Oes Aur, maen nhw wedi profi hynny.”

Ewro 2016

Cafodd y garfan hon ei galw’n “Oes Aur” cyn cyrraedd Ewro 2016 y llynedd, ond dywedodd Chris Coleman bryd hynny nad oedden nhw wedi gwneud digon i haeddu’r enw.

“Ond maen nhw wedi ennill yr enw bellach. Nhw yw’r Oes Aur. Mae’r criw hwn o chwaraewyr wedi gwneud gwahaniaeth, ac maen nhw wedi mynd gam ymhellach nag unrhyw un arall sydd wedi mynd o’u blaenau.

“Ond mae hynny yn y gorffennol, a fydd e ddim yn ein helpu ni nos fory.”

Dim sefyllfa newydd

Ar ôl y profiad o gyrraedd Ewro 2016, dydy bod ar drothwy twrnament ddim yn brofiad newydd i’r garfan na’r rheolwr.

A byddan nhw’n barod am yr her, yn ôl Chris Coleman.

“Dwi wedi eistedd yma cyn gemau mawr. Ddwy flynedd yn ôl, roedd y cyfan yn newydd sbon. Dwi ddim yn gwybod sut fyddwn i wedi bod yn teimlo.

“Nid ’mod i ddim yn teimlo cyffro, mi ydw i. Alla i ddim aros. Ond dw i wedi eistedd yma o’r blaen.

“Ry’ch chi’n edrych ymlaen at y gemau hyn. Dw i wedi eistedd yma o’r blaen ar ôl canlyniad gwael, heb wybod a oedd gen i swydd o hyd.

“Felly, mae bod yma nawr a bod yn rhan o hyn i gyd yn bleser mawr.”