Y Drenewydd 0–1 Cei Connah
Roedd angen gôl hynod ddadleuol ar Gei Connah i guro’r Drenewydd ar Barc Latham yn Uwch Gynghrair Cymru nos Sadwrn.
Callum Morris a sgoriodd unig gôl y gêm i’r ymwelwyr ar yr awr ond roedd cryn amheuaeth os oedd y bêl gyfan wedi croesi’r llinell cyn iddi gael ei chlirio gan Jamie Price.
Cei Connah a gafodd y gorau o’r hanner awr cyntaf ond gwastraffodd Michael Bakary gyfle da i’w rhoi ar y blaen yn y munudau cyntaf.
Roedd y Drenewydd yn well tuag at ddiwedd yr hanner a bu rhaid i John Danby wneud arbediad da i atal Nick Rushton rhag rhoi’r tîm cartref ar y blaen.
Daeth trobwynt y gêm wedi chwarter awr o’r ail hanner gyda phenderfyniad hynod ddadleuol. Anelodd Morris y bêl tuag at y gôl wedi peniad Michael Bakary i’w lwybr yn y cwrt chwech a chafodd gôl ei chaniatau er gwaethaf ymdrechion Price i’w chlirio oddi ar y llinell.
Jamie Reed a ddaeth agosaf at unioni i’r Drenewydd ond gwnaeth Danby yn y gôl i Gei Connah arbediad da arall yn isel i’w dde.
Mae’r canlyniad yn codi’r Nomadiaid i’r ail safle yn yr Uwch Gynghrair ond mae’r Robiniaid ar y llaw arall yn llithro i’r wythfed safle.
.
Y Drenewydd
Tîm: Jones, Williams, Price, Sears, Mills-Evans, Deeny (Kershaw 80’), Goodwin, Boundford, Rhushton, Mitchell (Kenton 73’), Reed
Cardiau Melyn: Price 68’, Kenton 80’
.
Cei Connah
Tîm: Danby, J. Owen, Kearney, Edwards, Heath, Mathias Bakare (Phillips 45’), Harrison, Morris, Woolfe (Smith 89’), Michael Bakare (M. Owen 69’), Wilde
Gôl: Morris 61’
Cardiau Melyn: Mathias Bakary 37’, Wilde 59’, Woolfe 78’, Kearney 83’
.
Torf: 204