Chris Coleman, (llun:Joe Giddens/PA)
Mae Chris Coleman wedi dewis ei dîm i wynebu’r ddwy gêm bwysig nesa’ a fydd yn penderfynu tynged Cymru yng Nghwpan y Byd.

Cyhoeddodd hyfforddwr y tîm pêl-droed cenedlaethol ei garfan 23 dyn heddiw ychydig dros wythnos tan gêm nesaf y crysau cochion.

Bydd Cymru yn teithio i Tbilisi i chwarae yn erbyn Georgia dydd Gwener, 6 Hydref, gyda dau wyneb newydd yn y tîm – gôl-geidwad Preston, Chris Maxwell a’r chwaraewr ifanc o Sheffield United, David Brooks.

Dyma hefyd fydd y gêm pan fydd y canolwr Aaron Ramsay yn ennill ei 50fed gap dros Gymru.

Bydd y garfan yn dychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd tridiau wedi’r gêm yn Georgia i herio Gweriniaeth Iwerddon.

Dyma’r garfan lawn:

Golwyr: Wayne Hennessey, Danny Ward, Chris Maxwell.

Amddiffynwyr: Ben Davies, James Chester, Neil Taylor, Chris Gunter, Tom Lockyer, Ashley Williams, Ethan Ampadu.

Canolwyr: Joe Allen, David Edwards, Andy King, Joe Ledley, Aaron Ramsey, Jonathan Williams, David Brooks.

Blaenwyr: Gareth Bale, Marley Watkins, Hal Robson-Kanu, Sam Vokes, Tom Lawrence, Ben Woodburn.