Fe allai amddiffynnwr Caerdydd a Chymru, Jazz Richards fod allan am dri mis oherwydd anaf i’w ffêr.

Fe fydd e’n cael llawdriniaeth ar ôl cael ei anafu yn y gêm rhwng Caerdydd a Sunderland ddydd Sul.

Fydd e ddim ar gael ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Georgia (Hydref 6) a Gweriniaeth Iwerddon (Hydref 9).

Dywedodd rheolwr Caerdydd, Neil Warnock nad yw “pethau’n edrych yn dda” iddo fe.

Doedd e ddim ar gael neithiwr wrth i’r Adar Gleision drechu Leeds o 3-1 i godi i frig y Bencampwriaeth.