Sam Vokes yn erbyn ei gap 'aur' yn Burnley ddydd Sadwrn (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)
Pan mae chwaraewr rhyngwladol yn cyrraedd y garreg filltir o gynrychioli ei gwlad 50 o weithiau mae’n derbyn cap aur arbennig gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Fe ddaeth ymosodwr Burnley, Sam Vokes, yn aelod o’r clwb arbennig hwnnw yn ystod y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Serbia yn Belgrâd ym mis Mehefin eleni.

A dyma pam yr oedd cynrychiolwyr o  Gymdeithas Bêl-droed Cymru, Lucy Mason a Lianne Cole, yn stadiwm Burnley, Turf Moor ddydd Sadwrn i gyflwyno’r cap iddo.

“Roedd hi’n wych i gael cyrraedd y garreg filltir arbennig,” meddai Sam Vokes wrth golwg360.

“Dw i wedi bod gyda’r garfan am tua naw i ddeg blynedd nawr, ac mae’n anferth i fi ân deulu i gyrraedd 50. Wnes i erioed feddwl y baswn i’n ei gyrraedd mewn gwirionedd. Mae’n gyflawniad enfawr ac rwy’n hynod o falch.”

Brian Flynn

A Sam Vokes yn hanu o Southampton, ac yn gymwys i gynrychioli Cymru drwy ei daid, cyn-reolwr Wrecsam, Brian Flynn, wnaeth ei ‘ddarganfod’, a’i ddewis ar gyfer y tîm dan-21 pan yn 17 oed.

Fe chwaraeodd ei gêm gyntaf mewn gêm gyfeillgar yn Gwlad yr Ia ym mis Mai 2008, a sgoriodd ei gôl gyntaf ym Mefi 2008 yn erbyn Azerbaijan mewn gêm ragbrofol Cwpan y Byd.

Mae wedi ennill lle yng nghalon cefnogwyr Cymru oherwydd ei gôl yn y fuddugoliaeth yn erbyn Gwlad Belg yn Lille yn Ffrainc yn Ewros 2016.

Mae Sam Vokes erbyn hyn wedi ennill 52 o gapiau, ac mae’n rhif 28 ar y rhestr o bawb sydd wedi chwaraei Gymru.