Ar ôl ennill eu pum gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, mae tîm pêl-droed Caerdydd wedi cael gêm gyfartal 1-1 oddi cartref yn erbyn Fulham yn eu chweched.

Dydy rheolwr yr Adar Gleision, Neil Warnock erioed wedi ennill gêm yn Craven Cottage.

Roedd y Saeson ar y blaen gyda chwarter awr o’r gêm yn weddill ar ôl i Ryan Sessegnon rwydo.

Ond aeth peniad yr eilydd Danny Ward oddi ar groesiad gan Liam Feeney yn ei gêm gyntaf, i gefn y rhwyd i sicrhau pwynt i’r Adar Gleision saith munud cyn diwedd y 90, gan amddifadu Fulham o’r cyfle am lechen lân yn eu herbyn am y tro cyntaf ers 1989.