Gareth Bale Llun: S4C
Trwy guro Moldova ddydd Mawrth mi fydd gan dîm pêl-droed Cymru “gyfle da” o orffen ar frig ei grŵp Cwpan y Byd, yn ôl Gareth Bale.

Daw’r sylw yn dilyn buddugoliaeth 1-0 i Gymru yn erbyn Awstria ddydd Sadwrn, gyda’r llanc ifanc Ben Woodburn yn sgorio.

Ar hyn o bryd mae carfan Chris Coleman dau bwynt tu ôl i Weriniaeth Iwerddon, ac mae pedwar pwynt rhyngddyn nhw ac arweinydd Grŵp D, Serbia.

Ond, mi fydd gêm y Gwyddelod a Serbia yn cael ei chynnal yr un pryd â gêm Cymru a Moldofa – ac mae Gareth Bale yn ffyddiog mai’r Cymry fydd ar y brig.

Gobeithion byw

“Mi ddywedais i fod gennym ni bedwar ffeinal i gadw’n gobeithion yn fyw,” meddai Gareth Bale. “Os enillwn ni pob un o’r pedwar bydd gyda ni gyfle da o orffen ar y brig. Os na, wnawn ni chwarae’r gemau dros ben.”

“Ry’ ni’n gwybod y byddan nhw’n gwneud pethau’n anodd i ni, ond gwnawn bopeth i ennill y pwyntiau ac i roi’n hunain mewn safle sydd hyd yn oed yn well. Os fydden i’n meddwl ein bod ni methu ennill lle, bydden i ddim yma. Rydym o hyd yn credu bod gyda ni gyfle.”