Fe fydd tîm pêl0-droed 
merched Caernarfon yn dechrau eu hymgyrch yn yr Uwch Gynghrair gyda gem yng Nghaerdydd ddydd Sul (Medi 3).

Ar ôl ennill dyrchafiad y tymor diwethaf, mae’r tîm yn disgwyl tymor caled. Ond, yn ôl y capten, Ffion Owen, maen nhw’n methu aros tan ddydd Sul.

“Mae’r tymor newydd yn dechrau penwythnos yma,” meddai wrth golwg360. “Mae’r tîm i gyd yn edrych ymlaen at gael chwarae mewn cynghrair newydd.

“Mae ’n mynd i fod yn her i ni i gyd, ond os arhoswn ni efo’n gilydd drwy’r tymor, dw i’n siŵr y byddan ni’n iawn. Mae chwarae yn yr Uwch Gynghrair yn mynd i wneud gwahaniaeth i ni i gyd, a dwi’n siŵr gwneith o ein gwella ni o gyd fel chwaraewyr.

“Rydan ni wedi cael dipyn o chwaraewyr  newydd,” meddai Ffion Owen wedyn. “Maen nhw i gyd yn rhai sydd yn mynd i’n cryfhau ni fel tîm, a hefyd genethod sydd wedi dod i fyny o dîm dan-16 y flwyddyn dwytha’ ac yn cael eu  tymor llawn cyntaf efo’r merched.

“Mae gynnon ni grŵp da o enethod yn y tîm, ac rydan gyd yn ffrindiau da tu allan i bêl-droed, ac mi fydd hyn yn  ein helpu ni drwy’r tymor.

“Rydan ni wedi gweithio’n galed a rhoi dipyn o  ymdrech yn y gemau cyn i’r tymor ddechrau, a hefyd wedi cael dipyn o gemau cyfeillgar i’n cael ni’n barod.”

Y gemau cyntaf

Fe fydd Caernarfon yn herio Caerdydd oddi cartref ddydd Sul – ac mi fydd hi’n her.

Yng ngweddill y gemau agoriadol, fe fydd merched Abertawe yn teithio i herio’r cyn-bencampwyr, Met Caerdydd, ac fe fydd Cil-y-coed, sydd hefyd wedi ennill dyrchafiad, yn chwarae’r Rhyl.

Fe fydd Y Fenni yn herio Llandudno, a Port Talbot yn teithio i’r brifddinas i wynebu Cyncoed.