Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi dod i gytundeb gyda Hull i arwyddo eu chwaraewr canol cae, Sam Clucas, ar ôl cael cynnig o £12m wedi ei wrthod yr wythnos ddiwethaf.

Rhaid i’r clwb nawr gytuno termau personol gyda’r chwaraewr 26 oed.

Mae Abertawe yn ceisio llenwi’r lle gwag sydd wedi ei adael gan Gylfi Sigurdsson wedi iddo symud i glwb Everton am £45m.

Mae’n debyg y bydd amddiffynwr chwith Abertawe, Stephen Kingsley, yn ymuno â Hull fel rhan o’r cytundeb.

Wilfried Bony ar ei ffordd yn ôl?

Yn ogystal â Sam Clucas, mae sôn bod Abertawe yn gobeithio gwario ychydig o’r arian a gafwyd am Gylfi Sigurdsson ar ymosodwr Manchester City, Wilfried Bony – ddwy flynedd a hanner wedi iddo ymuno â nhw o Abertawe am ffi o £25m.

Ar ôl cyfnod aflwyddiannus ar fenthyg gyda Stoke, mae gwerth Wilfried Bony wedi disgyn yn sylweddol. Mae Manchester City yn barod wedi gwrthod cynnig £10m gan Abertawe, a disgwylir iddyn nhw ofyn am o leiaf £13m.

Oherwydd anaf i Fernando Llorente, mae’r Elyrch yn ddibynnol ar yr ymosodwr ifanc, Tammy Abraham. Byddai ychwanegu Wilfried Bony i’r garfan yn sicr yn help mawr i Abertawe wrth iddyn nhw geisio osgoi cwympo o’r Uwch Gynghrair.