Wrth i dîm pêl-droed Abertawe deithio i Southampton heddiw ar ddiwrnod cyntaf tymor yr Uwch Gynghrair, mae’r capten Leon Britton wedi cyfaddef ei fod e wedi ystyried ymddeol y tymor diwethaf.

Doedd capten y clwb ddim wedi chwarae am rai misoedd ar ôl i Paul Clement gael ei benodi’n dilyn diswyddo’r Americanwr Bob Bradley, ac fe gafodd ei ddisodli fel capten y tîm gan Jack Cork, sydd bellach wedi gadael am Burnley.

Ond fe ddaeth cyfle hwyr i un o’r hoelion wyth ddisgleirio tua diwedd y tymor wrth i’r Elyrch frwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair am dymor arall.

Ar ddiwedd y tymor, arwyddodd Leon Britton gytundeb newydd am dymor arall, ac fe fydd ganddo fe opsiwn i ymestyn y cytundeb hwnnw am 12 mis arall.

“Dw i wedi cael adegau fel yna [pan fu’n ystyried ymddeol], wna i ddim dweud celwydd.

“Mae yna adegau pan y’ch chi’n ymarfer yn galed, ond os nad ydych chi’n chwarae dros y penwythnos, gall fod yn anodd.

“Er cymaint dw i’n mwynhau ymarfer, does dim gwell wefr fel pêl-droediwr na chamu allan ar y cae a chwarae.”

Mae’r prif hyfforddwr Paul Clement, ac yntau’n dechrau ar ei dymor llawn cyntaf gyda’r clwb, wedi cyfaddef ei fod e’n yfed o gwpan y tymor diwethaf ac arni’r geiriau ‘Keep Calm and Play Britton’ a gafodd ei rhoi iddo gan gefnogwr.

Dylanwad y capten

Ond mae dylanwad Leon Britton yn mynd ymhell y tu hwnt i hynny, ac yntau wedi chwarae dros 500 o gemau i’r clwb.

Wrth i’r Elyrch wynebu dyfodol ansicr y tymor diwethaf, prynodd y capten 25 o gopïau o’r ffilm Jack to a King er mwyn atgoffa’r chwaraewyr o hanes y clwb a’i bwysigrwydd i’r cefnogwyr.

Prynodd y chwaraewyr gwerth £70,000 o docynnau er mwyn i’r cefnogwyr deithio i Sunderland ar ddiwrnod ola’r tymor diwethaf, a hynny’n ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth yn ystod tymor anodd.

Ychwanegodd Leon Britton: “Pan y’ch chi’n chwarae mewn gemau fel’na, o ystyried beth sydd yn y fantol, mae pwysau mawr arnoch chi, ond mae modd ei fwynhau.

“Dyna’r y’ch chi am fod yn rhan ohono fe, dim ond ’mod i’n gallu cadw fy hun yn ffit ac yn iach, dw i’n teimlo y galla i gyfrannu i’r tîm hwn.”

Hyfforddi yn y dyfodol

Mae cytundeb Leon Britton yn golygu ei fod e wedi cael sicrwydd swydd hyfforddi gyda’r clwb yn y dyfodol.

Mae e wedi ennill ei drwydded, ond does ganddo fe ddim cynlluniau i uwchraddio honno tra ei fod yn dal i chwarae.

“Bydd yn haws ei gwneud hi ar ôl gorffen a phan dw i’n hyfforddi’n llawn amser.

“Dw i’n barod amdani, a gobeithio na fydd gyda ni bryderon eleni fel ry’n ni wedi’u cael dros y tymhorau diwethaf.

“Paul yw ein pedwerydd rheolwr mewn dwy flynedd. Mae hynny wedi achosi aniddigrwydd ac mae’n dangos ein bod ni wedi bod yn tangyflawni fel carfan ac fel clwb.”

Y timau

Wrth i’r ansicrwydd am ddyfodol Gylfi Sigurdsson barhau, dydy e ddim wedi’i gynnwys yn y garfan ar gyfer y daith i Southampton.

Ond mae disgwyl i Roque Mesa a Tammy Abraham chwarae mewn gêm gystadleuol am y tro cyntaf i’w clwb newydd.

Mae Ki Sung-yueng, Nathan Dyer a Fernando allan ag anafiadau.

Mae gan ymosodwr Southampton, Virgil van Dijk firws, ond mae’n bosib y bydd y chwaraewyr newydd Mario Lemina a Jan Bednarek yn dechrau’r gêm.

Bydd y gic gyntaf am 3 o’r gloch.