Paul Clement (Llun: golwg360)
Fe ddylai tîm pêl-droed Abertawe gael gwell dymor o dan Paul Clement y tymor hwn, yn ôl y sylwebydd a chyn-ymosodwr Cymru, John Hartson.

Fe fydd y Cymro Cymraeg yn aelod o dîm sylwebu S4C ar gyfer y gêm gyfeillgar heno rhwng tîm Paul Clement a’r tîm Eidalaidd Sampdoria yn Stadiwm Liberty.

Bydd y gêm yn cael ei darlledu’n fyw ac yn egsliwsif ar S4C, gyda’r gic gyntaf am 5.15pm.

Hon fydd gêm baratoadol ola’r Elyrch cyn iddyn nhw ddechrau ar ymgyrch newydd yn yr Uwch Gynghrair gyda thaith i Southampton y penwythnos nesaf.

Roedd yr Elyrch ar waelod y tabl pan gafodd Paul Clement ei benodi’n olynydd i’r Americanwr Bob Bradley ar ddechrau’r tymor, ond fe lwyddodd i’w codi nhw i ddiogelwch, gan orffen yn bymthegfed.

‘Ar frig y don’

Dywedodd John Hartson: “Fe wnaeth Abertawe orffen y tymor diwethaf ar frig y don o dan arweiniad Paul Clement.

“Dylai’r haf o baratoi o dan y rheolwr medrus hwn olygu y bydd y tîm yn barod i danio y tymor hwn.

“Rhaid i ni ei ganmol am ei waith arbennig o dda wrth gadw Abertawe yn yr uwch gynghrair a’u harbed nhw rhag disgyn y tymor diwethaf. Mae ganddo garfan dda o chwaraewyr ac rwy’n reit ffyddiog y gwnân nhw’n well y tymor yma.”

Sampdoria

Ond rhybuddiodd John Hartson y bydd Sampdoria yn cynnig her anodd i Abertawe.

“Mae Sampdoria wedi cynhyrchu llawer o dimau o’r safon uchaf a rheolwyr arbennig iawn dros y blynyddoedd. Pan oeddwn i’n chwarae dros Arsenal, dwi’n cofio curo Sampdoria ar giciau o’r smotyn ar ddiwedd dau gymal yn rownd gyn-derfynol Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop ym 1995.

“Roedd eu tîm nhw’n cynnwys sêr fel Walter Zenga, Sinisa Mihajlovic, Attilio Lombardo a Roberto Mancini a bues i’n ddigon lwcus i sgorio un o’r ciciau o’r smotyn a seliodd ein lle ni yn y rownd derfynol.

“Maen nhw’n dîm da iawn, ac mae’n sicr o fod yn gêm gystadleuol iawn. Dyna’r union beth sydd angen ar yr Elyrch wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Southampton ar 12 Awst.”

Sylwebaeth S4C

Bydd John Hartson yn ymuno â Dai Davies a’r prif gyflwynydd Dylan Ebenezer yn y stiwdio; gyda Nicky John ar ochr y lein, a Nic Parry a Malcolm Allen yn sylwebu.

Yn ymuno â Mark Jones am y sylwebaeth Saesneg ar y gwasanaeth botwm coch a gwasanaethau sain eraill fydd Cameron Toshack, hyfforddwr llwyddiannus tîm dan 23 Abertawe, a mab y cyn-reolwr John Toshack.

‘Gêm bwysig’

Dywedodd Pennaeth Dosbarthu Cynnwys S4C, Llion Iwan: “Rydym yn falch iawn ein bod yn dangos y gêm bwysig hon.

“Bydd yna ddiddordeb mawr yn y gêm ymysg cefnogwyr pêl-droed fydd yn awyddus i weld sut mae carfan Paul Clement yn perfformio ar ddechrau ei dymor llawn cyntaf wrth y llyw.

“Mae Sampdoria yn glwb ag iddo hanes disglair a thîm sy’n gwybod sut i oroesi a ffynnu yn Serie A ac fe fyddan nhw’n her anodd i’r Elyrch.”

Sgorio: Abertawe v Sampdoria, nos Sadwrn, 5pm (y gic gyntaf am 5.15pm). Ar gael ar-lein ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill