Wilfried Bony (Llun: Richard Mulder/Wikipedia CCA3.0)
Mae adroddiadau’n awgrymu bod tîm Besiktas yn Nhwrci yn cystadlu ag Abertawe i arwyddo’r ymosodwr Wilfried Bony o Manchester City.

Gadawodd e Gymru am ogledd Lloegr yn 2015 am £28 miliwn, gan sgorio wyth gôl mewn 46 o gemau.

Treuliodd e’r tymor diwethaf ar fenthyg yn Stoke, ac mae ei gytundeb gyda Manchester City yn dod i ben yn 2019.

Fe fyddai angen i’r Elyrch gynnig cyflog sylweddol i’r ymosodwr, sy’n ennill £120,000 yr wythnos ym Manceinion.

Ond fe allai ymdrechion Abertawe i’w ail-arwyddo ddibynnu ar werthu naill ai Gylfi Sigurdsson neu Fernando Llorente.

Mae Everton yn awyddus i arwyddo Gylfi Sigurdsson, tra bod Chelsea yn parhau i gwrso Fernando Llorente.

Gylfi Sigurdsson

Yn y cyfamser, mae adroddiadau’n awgrymu bod Everton yn barod i gynnig arian a’r cefnwr Callum Connolly yn gyfnewid am Gylfi Sigurdsson.

Mae lle i gredu bod yr Elyrch eisoes wedi gwrthod cynnig ariannol gwerth £40 miliwn am yr ymosodwr.