Malcolm Allen
Gyda chlybiau Uwchgynghrair Cymru allan o Ewrop am dymor arall mae ’na alw eto am symud y gynghrair i’r haf.

Ond yn ôl cyn ymosodwr Cymru a’r sylwebydd Malcolm Allen, clybiau llawn amser yw’r ateb.

“Clybiau cryfach sydd eu hangen,” meddai wrth Golwg360, “Mae’n rhaid symud i gael hyfforddwyr a chlybiau llawn amser.

“Mae’r Seintiau yn mynd drwodd i’r ail rownd y dyddiau hyn ac mae’r pres ar gael am hyn yn cadw nhw fynd. Pe bai bob clwb yn mynd drwodd mae’r pres yn eu helpu i gadw chwaraewyr neu ddenu gwell chwaraewyr i’r clwb.

“Ydy model Iwerddon wedi gweithio? Dwi’m yn siŵr, hefyd mae’n rhaid cofio bod gwrthwynebwyr y timau y tro hyn i gyd o gynghreiriau sydd yn llawer uwch na’n Uwchgynghrair ni. Roedden nhw’n anlwcus , mi gafodd Y Bala digon o gyfleoedd yn y cymal cyntaf yn erbyn Vaduz, ac roedd perfformiad Bangor yn Lyngby yn galonogol, heb sôn am fuddugoliaeth Cei Connah yn erbyn HJK Helsinki.”

Aros fel rydan ni

Mae cefnogwr brwd Bangor, Richard Williams, sy’n teithio dramor i wylio’r Dinasyddion o’r un farn.

“Yn bersonol aros fel rydan ni, fasa’n teimlo’n annaturiol i chwarae yn yr haf, dwi’n meddwl bydd llai o gefnogwyr yn enwedig dros gyfnod gwyliau’r ysgol. Ond Y Seintiau sydd â chysondeb yn y gynghrair, felly mwy o dimau llawn amser  a mwy o gemau cyfeillgar yn erbyn y timau o Ogledd Iwerddon a’r Alban, roedd y gemau hyn yn syniad da.”

Ar ôl y rowndiau diweddar mae cynghrair Cymru yn 50 ar restr UEFA allan o 55, gyda gwledydd Ynysoedd Faro, Gibraltar , Andorra, San Marino a Kosovo  yn is. Felly oes angen dipyn o bersbectif  am y sefyllfa?

“Fy mhwynt i ydyw pe bai’r gynghrair yn symud i’r haf pa effaith fydd yn ei gael ar y cynghreiriau sy’n bwydo clybiau iddo, a bydd y rhain yn gwanhau,” meddai ‘r gohebydd, Jordan Jones, “Pa broblemau bydd hyn  yn achosi?  Mae ail gynghrair Iwerddon ac  wyth clwb yn unig, hanner maint y Cymru Alliance yn y Gogledd a’r Gynghrair pêl-droed yn y De.

“Mae’n rhaid llongyfarch Dundalk ar eu llwyddiant yn Ewrop y tymor diwethaf, a gyda’r arian cawsom o Ewrop maen nhw mewn lle da. Pe bai Cymru yn symud i’r haf byddai angen  llawer o waith cynllunio. Ar hyn o bryd rwy’n meddwl bod yr Uwchgynghrair mewn lle da, ac roedd y canlyniadau yn anffodus yn erbyn timau o safon. Mae Lyngby wedi mynd drwodd i’r drydedd rownd rhagbrofol ac roedd Vaduz wedi rhoi dwy gêm agos i ODD BK o Norwy.”

Dim dyhead i’w newid

“Rydan ni yn cael cyfarfod blynyddol, ac nid oes un o’r clybiau yn gofyn am newid i’r haf,”meddai Ysgrifennydd yr Uwchgynghrair, Gwyn Derfel.

“Mae nifer o bethau i’w hystyried, y cytundeb darlledu a’r cynghreiriau o dan yr Uwchgynghrair.  Oes mae ’na rinweddau da dros chwarae yn yr haf, rydan ni’n deall bod clybiau gwledydd eraill wedi chwarae gemau yn barod oherwydd bod eu cynghreiriau wedi dechrau, roedd HJK Helsinki wedi chwarae 15 o gemau cyn chwarae Cei Connah.

“Mae gennym gyswllt da a Chynghrair Iwerddon, ac roedd Dundalk wedi gwneud yn wych tymor diwethaf. Ond tan mae dyhead i’w newid yn dod gan y clybiau, parhau bydd y sefyllfa bresennol.”