Osian Roberts (Llun: Prifysgol Bangor)
Mae rheolwr cynorthwyol tim pel-droed Cymru wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor heddiw.

Bu Osian Roberts yn chwarae’n broffesiynol yng nghynghrair genedlaethol yr American Soccer League, a daeth yn chwaraewr-reolwr yn 26 oed.

Mae wedi hyfforddi timau ieuenctid Cymru am sawl blwyddyn a thros 150 o gemau. Ym mis Gorffennaf 2015 fe’i penodwyd yn rheolwr cynorthwyol y tîm cenedlaethol, ac fe ddaeth i amlygrwydd mawr yn ystod llwyddiant Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016.