James Chester (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)
Nid amddiffynnwr Cymru, James Chester yw capten Clwb Pêl-droed Aston Villa bellach.

Daeth cadarnhad mai John Terry yw capten y clwb ar gyfer tymor 2017-18, ar ôl symud o Chelsea.

Roedd e’n gapten am y tro cyntaf brynhawn ddoe, wrth iddyn nhw golli o 2-1 yn Amwythig.

Roedd e wedi’i gysylltu ag Abertawe am gyfnod ar ôl i gyn-hyfforddwr Chelsea, Paul Clement gael ei benodi’n brif hyfforddwr yr Elyrch.

Symudodd James Chester i Aston Villa ddechrau’r tymor diwethaf, ac roedd e’n gapten am ran helaeth o’r tymor yn absenoldeb Tommy Elphick.