Collodd y Seintiau Newydd o 2-0 yng nghymal cyntaf eu gêm oddi cartref yn erbyn Rijeka o Groatia yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr neithiwr.

Roedden nhw wedi curo Europa FC o Gibraltar o 4-3 yn y rownd ddiwethaf.

Roedden nhw ar ei hôl hi ar ôl i Josip Misic daro cic rydd i gefn y rhwyd o ugain llath ar ôl pum munud.

Ac fe ddyblon nhw eu mantais ar ôl 69 o funudau drwy gôl gan Florentin Matei.

Daeth cyfleoedd hwyr i ran y Cymry, ond fe darodd Scott Quigley gic rydd i ochr allanol y rhwyd.

Bydd yr ail gymal ar gae Neuadd y Parc yng Nghroesoswallt nos Fercher nesaf.