Ers nos Sul, mae clybiau Uwch Gynghrair Cymru yn gwybod pwy y byddan nhw’n ei wynebu yn Ewrop.

Taith i Bortiwgal sy’n wynebu’r Seintiau Newydd yn rowndiau rhagbrofol cyntaf Cynghrair y Pencampwyr 2017/18. Fe ddaw hyn ar ôl iddyn nhw herio Europa FC o Gibraltar yn y cymal cyntaf yn Neuadd y Parc, Croesoswallt ar Fehefin 27.

Dydi stadiwm Europa FC ddim yn addas ar gyfer y gêm oddi cartref, felly bydd yn rhaid chwarae’r gêm ym Mhortiwgal ar Orffennaf 4 neu 5.

Pe baen nhw’n curo tîm o Gibraltar, HNK Rijeka o Groatia fydd eu gwrthwynebwyr yn yr ail rownd ragbrofol.

Bala ar y Belle Vue

Fe fydd Y Bala yn herio FC Vaduz o Liechtenstein ar y Belle Vue yn Y Rhyl ar Fehefin 29.

Bydd tîm Andy Morrison, Cei Connah yn wynebu tîm o Sgandinafia unwaith eto – gyda HJK Helsinki o’r Ffindir yn teithio i Nantporth, stadiwm Bangor am y cymal gyntaf cyn teithio i’r Ffindir wythnos wedyn.

Bangor 

Felly, mae Bangor yn ol yn Ewrop ar ôl absenoldeb byr, yn chwarae oddi cartref gyntaf yn Lyngby BK o Ddenmarc  cyn chwarae’r ail gymal ym Mangor.

Dywedodd is rheolwr y Dinasyddion, Gary Taylor-Fletcher: “Mi fasa unrhyw un o’r timau wedi bod yn wrthwynebwyr caled… ond o ran teithio, mae hon yn un anodd.

“Ond rydan ni’n edrych ymlaen a fydd yn brawf da. Mi fyddan yn ceisio dysgu cymaint gallan amdanynt cyn y gêm. Mae’n gyfnod cyffrous i ni ac rydan yn datblygu carfan gref.”