Mae gobeithion Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd yn 2018 yn dal yn fyw ar ôl iddyn nhw gael gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Serbia yn ninas Belgrade heno.

Daw’r canlyniad union flwyddyn ar ôl i Gymru guro Slofacia yn eu gêm gyntaf yn Ewro 2016 yn Ffrainc.

Sgoriodd Aaron Ramsey gic o’r smotyn yn null Panenka – dros ben y golwr – ar ôl 35 munud wedi i grys Sam Vokes gael ei dynnu yn y cwrt cosbi.

Ar yr un cae yn 1976 y sgoriodd Antonin Panenka gôl union yr un fath o’r smotyn yn erbyn Gorllewin yr Almaen yn rownd derfynol Pencampwriaethau Ewrop.

Ond fe sicrhaodd Serbia bwynt drwy gôl gan ymosodwr Newcastle, Aleksandar Mitrovic ar ôl 73 o funudau, er y gallen nhw fod wedi mynd ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner pan oedd hi’n edrych fel pe bai Chris Gunter wedi llawio’r bêl yn y cwrt cosbi.

Mae Cymru bellach yn drydydd, bedwar pwynt y tu ôl i Serbia a Gweriniaeth Iwerddon yng Ngrŵp D.

Dyma bumed gêm gyfartal Cymru yn olynol, ac fe fydd rhaid iddyn nhw guro Awstria a Moldofa er mwyn cadw eu gobeithion o gyrraedd Rwsia’n fyw.

Ond fydd Joe Allen ddim ar gael i wynebu Awstria ar ôl cael cerdyn melyn am dacl flêr ar Filip Kostic.

‘Pwynt gwych’

Ar ddiwedd y gêm, dywedodd rheolwr Cymru, Chris Coleman ei fod yn “bwynt gwych” i Gymru.

Dywedodd wrth Sky Sports: “Ry’ch chi’n disgwyl gêm galed pan y’ch chi’n dod yma ond dros y 90 munud, cawson ni’r cyfleoedd gorau ac fe weithiodd y cynllun i’r dim.

“Dy’n ni ddim yn mynd i ddod yma a chwarae pêl-droed agored. Gwnaethon ni hynny o’r blaen ac ry’n ni’n gwybod beth ddigwyddodd [colli o 6-1].”

Gobaith o hyd

Er nad oedd Cymru wedi llwyddo i sicrhau’r triphwynt, mae Chris Coleman yn credu bod ei dîm ynddi o hyd wrth iddyn nhw geisio gorffen yn ail yn y grŵp.

“Mae’n grŵp cyffrous.

“Dw i’n gwybod fod pobol yn edrych ar ein pedwar pwynt gyda phedair gêm i fynd, allwn ni gau’r bwlch? Wrth gwrs. Cant y cant, gallwn ni gau’r bwlch.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen at yr heriau sydd i ddod yn yr ymgyrch yma.”