Malcolm Allen
Mae gêm fwyaf pêl droed Cymru ers Ewro2016 yu digwydd ddydd Sul. Mae’r gêm yn un y mae’n rhaid i Gymru ei hennill er mwyn cadw eu gobeithion o orffen ar frig rowndiau rhagbrofol Grŵp D Cwpan y Byd 2018 yn fyw.

Yn ôl cyn ymosodwr Cymru, Malcolm Allen, mae Cymru yn dal i chwilio am ganlyniad a pherfformiad a fydd yn ail-danio’r ymgyrch i fynd drwodd i Gwpan y Byd 2018 yn Rwsia.

“Rydan wedi bod yn byw ar atgofion Ewro 2016 yn rhy hir, mae’n amser i bawb sylweddoli  mai’r gêm hon yn meddwl nifer o bethau, meddai wrth Golwg360, colli, a’n sicr na fyddan yn Rwsia, gêm gyfartal, gallan dal fynd drwadd yn y gemau ail gyfle ond dipyn o dasg, enill, ac mae’n dwylo ni.

“O’n i mor siomedig ar ôl y gêm gyfartal yn erbyn Iwerddon yn Nulyn, rydan wedi cael cyfle ar ôl cyfle i roi ein marc ar y grŵp ond wedi ildio goliau blêr, hefyd mae’r posibilrwydd pe bai ni’n colli be ddaw o Chris Coleman, mae wedi cyhoeddi mai ymgyrch olaf fel rheolwr y tîm cenedlaethol ydi hwn…”

Ben Woodburn

“Gyda Gareth Bale wedi’i wahardd, mae’r dasg yn un anoddach, mae’r ystadegau yn ymddangos mai tîm un dyn rydan ni, gyda Bale yn sgorio nifer o’n goliau a chynorthwyo nifer hefyd, ond mae’n gyfle i’r chwaraewyr ifanc dangos eu gallu ar lwyfan rhyngwladol,” meddai Malcolm Allen wedyn.

“Dw i’n sicr y bydd Ben Woodburn o Lerpwl ar y cae rywbryd yn Belgrad, gyda chyfle i greu argraff, y fo ydi’r dyfodol. Hefyd, yn sicr bydd y tîm hyfforddi wedi gwneud gwaith dilys o baratoi.

“I sôn am y garfan, dw i’n falch o weld wynebau newydd, o bosib mi ddyla’r rhain fod wedi dod i mewn ar ôl yr Ewros. Hefyd, mae yna ddirgelwch ynglyn a sefyllfa Paul Dummett o Newcastle, ydi o wedi ymddeol? Be’ ydi’r gwir? Mae o’n dal yn ifanc, efo digon o brofiad.

“Yn gyffredinol, mae digon i fod yn bositif amdano fo,” meddai Malcolm Allen. “Sam Vokes wedi cael tymor eithaf, Tom Lawrence ar dân yn y bencampwriaeth, a Danny Ward wedi ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

“Mae’n bosib y basa gêm gyfeillgar ar ôl diwedd y tymor wedi helpu, mae nifer o’r chwaraewyr wedi cael toriad ar ôl i’r tymor orffen, gobeithio byddan yn barod am y gêm a chawn fuddugoliaeth i’w chofio.”

Mae Cymru yn eistedd yn y drydydd safle yn y grŵp ar ôl pum gêm, pedwar pwynt tu ôl i Serbia sydd ar y brig a Gweriniaeth Iwerddon sy’n ail. Mae’r tri thîm dal heb golli gêm yn y grŵp eto. Mae Awstria yn teithio i herio Gweriniaeth Iwerddon yr un noson yn Nulyn.

Gemau’n weddill

Medi 2, 2017 – Cymru v Awstria

Medi 5, 2017 – Moldofa v Cymru

Hydref 6, 2017 – Georgia v Cymru

Hydref 9, 2017 – Cymru v Gweriniaeth Iwerddon