Mae un o beli ‘Beau Jeu’ swyddogol Adidas, a ddefnyddiwyd yn ystod buddugoliaeth enwog Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn rownd go-gynderfynol Ewro 2016, yn un o’r prif wrthrychau mewn arddangosfa am hanes clybiau pêl-droed Cymru yn Ewrop.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys pum chwaraewr sydd wedi ennill y gystadleuaeth enwog – Jayne Ludlow, Joey Jones, Ian Rush, Ryan Giggs a Gareth Bale – ac ymysg yr eitemau mae crysau a wisgwyd gan Joey Jones a Ryan Giggs; crys wedi’i lofnodi gan Gareth Bale, rhaglenni a chapiau.

“Dyma arddangosfa hanfodol i ymwelwyr sydd am wybod mwy am rôl Cymru ym mhêl-droed clybiau Ewrop,” meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru.

“Ac wrth gwrs, rydyn ni’n hapus iawn ein bod wedi caffael un o beli swyddogol adidas Euro 2016 ar gyfer y casgliad cenedlaethol. Fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ein rôl ni yw casglu gwrthrychau ac atgofion sy’n coffáu adegau arwyddocaol yn ein hanes fel cenedl.”

Mae’r arddangosfa i’w gweld ym mhrif neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan Fehefin 18.