Mae tîm pêl-droed Abertawe’n ddibynnol ar eu chwaraewyr mwyaf profiadol wrth iddyn nhw geisio aros yn Uwch Gynghrair Lloegr, yn ôl eu prif hyfforddwr Paul Clement.

Mae ganddyn nhw ddwy gêm yn weddill i aros ym mhrif adran y Gynghrair Bêl-droed ac mae rhai o’r chwaraewyr, gan gynnwys capten y clwb Leon Britton a’r amddiffynnwr Angel Rangel wedi bod yn chwarae i’r clwb ers nifer o flynyddoedd.

Roedd Leon Britton yn allweddol wrth i’r Elyrch guro Everton o 1-0 ddydd Sadwrn diwethaf, ac mae Paul Clement wedi cymharu ei ddylanwad â dylanwad rhai o sêr Chelsea y bu’n gweithio â nhw yn y gorffennol, gan gynnwys John Terry a Frank Lampard.

“Dw i wedi cael blas ar hynny gyda John Terry a Frank Lampard yn Chelsea, ond roedd yr hyn welais i ddydd Sadwrn diwethaf yn arbennig,” meddai Paul Clement.

Wrth drafod perfformiad Leon Britton, ychwanegodd: “Aeth e am un gyda’i ben, roedd y dorf yn mynd yn wyllt.

“Fe daclodd e’n gryf hefyd. Yna pan ddaeth e oddi ar y cae, roedd y gymeradwyaeth honno’n anhygoel.

“Am berthynas sydd gan Leon â’r cefnogwyr. Anghredadwy!

“Gallai hynny gael ei ystyried yn fantais i ni, mae pobol yn deall yr hanes.”

Sunderland

Mae’r Elyrch yn teithio i Sunderland heddiw gan wybod y byddai buddugoliaeth iddyn nhw a buddugoliaeth i Crystal Palace dros Hull y penwythnos hwn yn sicrhau eu lle yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

Mae Leon Britton a’i chwaraewyr wedi penderfynu talu am 3,000 o docynnau ar ran y cefnogwyr ar gyfer y daith i ogledd-ddwyrain Lloegr heddiw.

Ymhlith y chwaraewyr profiadol eraill sydd wedi cael canmoliaeth gan Paul Clement mae Nathan Dyer a Wayne Routledge.

“Siaradodd Wayne yn yr ystafell newid jyst cyn i ni fynd allan yn Stoke.

“Roedd e’n gwisgo dillad cyffredin oherwydd roedd e wedi’i anafu. Daeth e i mewn jyst cyn i ni fynd allan a dweud ‘Gobeithio’ch bod chi i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw hyn. Gobeithio’ch bod chi’n gwybod!”

Enillodd yr Elyrch y gêm honno o 2-0 ar Ebrill 22.

Diwedd y tymor

Mae Abertawe un pwynt uwchben Hull ar hyn o bryd, ac maen nhw’n ail ar bymtheg yn y tabl, un safle uwchben y safleoedd disgyn.

West Brom yw’r gwrthwynebwyr yn Stadiwm Liberty ar ddiwrnod ola’r tymor.

Ychwanegodd Paul Clement: “Os ydyn ni’n gwneud jobyn dda ddydd Sadwrn, bydd hi’n haws gwylio gêm Hull.

“Os na, efallai y bydda i’n eistedd mewn ystafell dywyll!”