Tîm pêl-droed Chelsea yw pencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl iddyn nhw guro West Brom o 1-0 ar gae’r Hawthorns neithiwr.

Collodd Spurs yn erbyn West Ham nos Wener diwethaf, oedd yn golygu y byddai triphwynt neithiwr yn sicrhau’r tlws i Chelsea pe baen nhw’n ennill.

Daeth y gôl fuddugol gan Michy Batshuayi ar ôl 82 o funudau, a hynny ar ôl iddo fe fethu â dechrau’r un gêm yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Ond hwn oedd ei ddeunawfed gêm fel eilydd ar ôl i Chelsea dalu £33 miliwn amdano haf diwethaf wrth iddo symud o Marseille.

Fe allai Chelsea fod wedi sicrhau’r triphwynt yn gynnar yn yr ail hanner pe bai Victor Moses wedi sgorio.

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod Chelsea ddeg pwynt ar y blaen i Spurs, a’u bod nhw wedi ennill eu pumed tlws yn yr Uwch Gynghrair mewn 13 tymor.

Byddan nhw’n sicrhau’r ’dwbl’ pe baen nhw’n curo Arsenal yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr ar Fai 27.

Mae’r llwyddiant hefyd yn golygu mai’r chwaraewr canol cae N’Golo Kante yw’r chwaraewr cyntaf ers Eric Canton yn 1992 a 1993 i ennill yr Uwch Gynghrair ddau dymor yn olynol gyda dau glwb gwahanol.