Simon Brooks a Llew
Fe fydd miloedd o bobol o dramor yn heidio i Gaerdydd ar Fehefin 3  i wylio rownd derfynol Pencampwriaeth Ewrop, ond mae tad a mab o Borth-y-gest ger Porthmadog wedi bod yn ffodus  i gael ticedi drwy system falot UEFA.

Wedi gwylio Clwb Pêl Droed Porthmadog yn ffyddlon dros y blynyddoedd geisiodd Simon Brooks am docyn iddo fo a’i fab, Llew, syn 9 oed, pan dderbyniodd ebost yn ddiweddar yn cadarnhau, roedd wrth ei fodd.

“Dw i’n hapus iawn ac yn edrych ymlaen, bydd yn brofiad gwych i Llew,” meddai. “Rydan ni’n cefnogi pêl-droed ar lefel sylfaenol yn wythnosol, felly pam ddim cael y cyfle i weld chwaraewyr o safon ryngwladol yn ein gwlad?

“Dw i wedi talu £60 yr un am y tocynnau – pris rhesymol am ddigwyddiad mor fawr dw i’n meddwl,” meddai Simon Brooks wedyn.

“Bonws” fyddai gweld Gareth Bale

Gyda sïon yr wythnos hon am ffurfio Tim GB, mae Simon Brooks yn credu annibyniaeth Cymru yn bwysig.

“Pe na baen ni’n genedl bel-droed annibynnol,” meddai, “i Lundain y byddai ffeinal UEFA wedi mynd.

“Hefyd dw i’n ffodus bod gen i ffrindiau yng Nghaerdydd, oherwydd mae prisiau gwestai yn hurt. Yn amlwg pe bai Gareth Bale yn chwarae mi fydd yn fonws, ond mae Llew yn hoff o Real Madrid a fi Barcelona.”