Vincent Tan
Mae perchennog Clwb Pêl-droed Caerdydd, Vincent Tan wedi dweud y byddai’n ystyried gwerthu’r clwb “am y pris cywir”.

Ond fe ddywedodd nad oes brys mawr i wneud hynny.

Mae adroddiadau’n awgrymu ei fod e’n ystyried gwerthu’r Adar Gleision, clwb KV Kortrijk yng Ngwlad Belg, FK Sarajevo ym Mosnia a’i gyfrannau yng nghwlb LAFC yn yr MLS yn yr Unol Daleithiau.

Mewn datganiad, dywedodd nad oes ganddo fe “gynlluniau i werthu’r un o’r clybiau”, ond fe ychwanegodd y byddai’n “sicr yn ystyried gwneud am y pris cywir”.

Dywedodd y byddai’n dymuno gadael y clwb “mewn dwylo da” pe bai’n penderfynu ei werthu.

Vincent Tan

Prynodd Vincent Tan y clwb yn 2010, ac mae e wedi buddsoddi mwy na £150 miliwn ers hynny.

Mae’n fwriad ganddo ddileu dyledion y clwb erbyn 2021.

Ond mae adroddiadau bellach yn awgrymu y byddai’n ystyried gwerthu’r clwb am £50 miliwn.

Dadleuol

Mae Vincent Tan wedi gwneud sawl penderfyniad dadleuol wrth gyflwyno cyfres o newidiadau i’r clwb dros y tymhorau diwethaf, gan gynnwys newid lliw’r crysau o las i goch – ond fe fu’n rhaid gwyrdroi’r penderfyniad hwnnw yn dilyn gwrthwynebiad gan y cefnogwyr.

Cyrhaeddodd y clwb yr Uwch Gynghrair yn 2013, ond fe wnaethon nhw ddisgyn i’r Bencampwriaeth ar ôl un tymor yn unig.

Ers y ffrae am y crysau, dim ond unwaith mae Vincent Tan wedi bod i weld gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac mae lle i gredu ei fod e wedi diflasu erbyn hyn ac yn gobeithio gwerthu’r clwb.