Mae asgellwr ymosodol newydd Abertawe, Jordan Ayew wedi talu teyrnged i amddiffynnwr Cymru ac Aston Villa, James Chester.

Mae Jordan Ayew yn paratoi i chwarae yng nghrys Abertawe am y tro cyntaf, wrth i’r Elyrch herio’r pencampwyr presennol, Caerlŷr yn Stadiwm Liberty y prynhawn yma.

Fe symudodd o Aston Villa yn gyfnewid am gefnwr chwith Cymru, Neil Taylor cyn i’r ffenest drosglwyddo gau ddiwedd mis Ionawr.

Ond fe fu ynghlwm wrth Gwpan Gwledydd Affrica, ac yntau’n cynrychioli Ghana ar y llwyfan rhyngwladol.

Dywedodd Jordan Ayew wrth Golwg360: “Fe ddaeth e’n gapten [ar Aston Villa] ar ôl pedwar mis.

“Mae hynny’n dangos pa mor wych yw e fel chwaraewr ac fel amddiffynnwr.

“Mae e wedi bod yn rhagorol ers iddo fe symud i Aston Villa.”

Brawd iau Andre Ayew

Ond yn ôl Jordan Ayew, mae ei gyfnod yn Aston Villa yn y gorffennol, ac mae e’n edrych ymlaen at “bennod newydd” yn ei yrfa wrth ymuno â’r Elyrch.

“Dw i mor ddiolchgar i fod yma. Dw i’n un o’r bobol hapusaf yn y byd.

“Fe ddigwyddodd bythefnos cyn i’r ffenest drosglwyddo gau. Pan ges i glywe, ro’n i’n falch oherwydd ro’n i’n arfer dod yma’n aml oherwydd fy mrawd.

“Ro’n i’n gwybod tipyn am y clwb ac fe ddywedodd fy mrawd mai’r penderfyniad gorau fyddai i fi fynd i Abertawe yn hytrach na dychwelyd i Ffrainc neu fynd i wlad arall.”

Sgoriodd Andre Ayew 12 o goliau mewn 34 o gemau i’r Elyrch y tymor diwethaf cyn symud i West Ham.

Ond mae Jordan Ayew yn dweud nad yw efelychu llwyddiant ei frawd yn bwysig iddo, gan ei fod yn canolbwyntio ar gadw Abertawe yn yr Uwch Gynghrair.

“Y peth pwysicafd yw ein bod ni’n aros yn yr Uwch Gynghrair. Mae angen i ni baratoi’n gorfforol ac yn feddyliol er mwyn bod yn effeithiol ar gyfer y tîm.”

Disgyn i’r Bencampwriaeth

Mae gan Jordan Ayew brofiad o ddisgyn o’r Uwch Gynghrair i’r Bencampwriaeth, yn dilyn ei gyfnod gydag Aston Villa.

Ac mae’n awyddus i sicrhau nad yw’n wynebu’r un profiad y tymor hwn gydag Abertawe.

“Fel chwaraewr, dydych chi byth eisiau disgyn. Yn Aston Villa, roedden ni’n gwybod ym mis Ionawr y bydden ni’n disgyn i’r Bencampwriaeth.

“Roedd hynny’n anodd gan fod gyda chi ddeufis neu dri i chwarae. Mae’n anodd yn feddyliol pan ydych chi’n gwybod y byddwch chi’n chwarae yn y Bencampwriaeth.

“Ond mae hon yn bennod newydd i fi. Mae gyda fi dipyn i’w brofi, a dyna pam dw i yma heddiw.”