Caernarfon 3–2 Y Rhyl (wedi amser ychwanegol)
               

Mae Caernarfon yn wyth olaf Cwpan Cymru ar ôl curo’r Rhyl mewn gêm hynod gyffrous yn y bedwaredd rownd ar yr Ofal nos Sadwrn.

Dwy gôl yr un oedd hi wedi naw deg munud ond cipiodd deg dyn y Cofis y fuddugoliaeth gyda gôl Carl Owen bum munud o ddiwedd yr amser ychwanegol.

Hanner Cyntaf

Caernarfon a ddechreuodd orau a bu rhaid i Dan Lavercombe fod yn effro yn y gôl i’r Rhyl yn y munud cyntaf i atal Jamie Breese.

Daeth y gôl agoriadol wedi saith munud, amddiffyn y Rhyl yn methu â chlirio cic rydd hir Nathan Craig a Danny Sullivan yn chwipio ergyd i’r gornel uchaf.

Cafodd yr ymwelwyr gyfle da i unioni pethau dri munud yn ddiweddarach ond cafodd peniad Toby Jones ei arbed gan Alex Ramsay.

Gwnaeth y golwr cartref arbadiad da arall o beniad Alex Jones ychydig funudau’n ddiweddarach hefyd tra y gorfododd Darren Thomas arbediad gan Lavercombe yn y pen arall.

Ail Hanner

Bu rhaid i Lavercombe fod yn effro eto ar ddechrau’r ail hanner i atal Rob Jones ond roedd y Rhyl yn edrych yn fwy bygythiol wedi’r egwyl.

Mater o amser oedd hi ac fe ddaeth gôl i’r ymwelwyr chwarter awr o ddiwedd y naw deg pan beniodd Steve Lewis gic rydd Sion Edwards i gefn y rhwyd.

Roedd hi’n gyfartal am lai na phum munud cyn i Craig adfer mantais y Cofis o’r smotyn wedi i’r dyfarnwr farnu’n ddadleuol braidd fod Michael Sharples wedi llorio Breese.

Yn ôl y daeth y Claerwynion unwaith eto serch hynny ac roedd angen amser ychwanegol i setlo pethau wedi i Stefan Halewood rwydo gyda pheniad rhydd o gic rydd Toby Jones.

Amser Ychwanegol

Bu rhaid i Gaernarfon chwarae dros ugain munud o’r amser ychwanegol gyda deg dyn yn dilyn ail gerdyn melyn i’r capten, Craig.

Cafwyd cyfleoedd yn y ddau ben serch hynny wrth i goesau blinedig arwain at ddiweddglo hynod agored i’r gêm. Cafodd Breese gyfle da i’r tîm cartref ac roedd Zyaac Edwards ac Alex Jones yn wastraffus i’r Rhyl.

Ond gyda’r gêm yn anelu am giciau o’r smotyn cafodd Lavercombe ei guro ar ei bostyn agosaf gan Owen yn dilyn dyfalbarhad Thomas.

Cafodd Thomas gyfle gwych i ychwanegu pedwaredd yn yr eiliadau olaf ond roedd tair yn ddigon i ennill y gêm i Gaernarfon a sicrhau eu lle yn yr wyth olaf lle byddant yn teithio i Lanfair Caereinion i wynebu Llanfair Utd.

.

Caernarfon

Tîm: Ramsay, J. Williams (Fowler 46’), Edwards, C. Williams, Craig, Roberts, Sullivan, Thomas, Jones, Brookwell (Owen 75’), Breese

Goliau: Sullivan 7’, Craig [c.o.s.] 81’, Owen 116’

Cardiau Melyn: Craig 34’, 98’ Williams 44’, Sullivan 54’. Jones 64’, Roberts 83’

Cerdyn Coch: Craig 98’

.

Y Rhyl

Tîm: Lavercombe, Simpson, Halewood, Sharples, Hartley, Young, Abraham, Edwards (Pierce 82’), A. Jones (Buckley 115’), T. Jones, Lewis (Edwards 116’)

Goliau: Lewis 76’, Halewood 85’

Cardiau Melyn: Halewood 41’, Edwards 59’, Sharples 80’, A. Jones 103’

.

Torf: 1,185