Caernarfon 2–0 Porthmadog                                                         

Daeth dros 1,200 o dorf i’r Ofal i wylio Caernarfon yn curo Porthmadog yng Nghynghrair Undebol Huws Gray brynhawn Mawrth.

Daeth 1,247 trwy’r giat yng Nghaernarfon, bron i ddwywaith cymaint na’r un o gemau Uwch Gynghrair Cymru ddoe.

Yr ymwelwyr o Borthmadog a ddechreuodd orau ond methodd yr ymwelwyr â manteisio ar ambell gyfle cynnar.

Caernarfon yn hytrach a gafodd y gôl gyntaf wedi deg munud wrth i Jamie Breese benio cic rydd dda heibio i Richard Harvey yn y gôl.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond dyblodd y tîm cartref eu mantais toc wedi’r awr diolch i gôl unigol dda Danny Brookwell.

Cafodd Port ddigon o feddiant wedi hynny ond Caernarfon a oedd yn edrych yn fwyaf tebygol o sgorio gyda gwrthymosodiad.

Doedd dim trydedd gôl i fod serch hynny ond roedd Caernarfon wedi gwneud digon i ennill y gêm. Mae’r Cofis yn aros yn ail yn y tabl ond Porthmadog yn llithro o’r pedwerydd i’r chweched safle.