Llun: Clwb pêl-droed Caerdydd
Mae clwb pêl-droed Caerdydd wedi diswyddo’r prif hyfforddwr Paul Trollope.

Fe wnaeth yr hyfforddwr 44 mlwydd oed olynu Russell Slade dros yr haf ond mae’r clwb wedi penderfynu cael gwared ohono wedi dim ond 12 gêm ac mae wedi talu’r pris am ddechrau siomedig i’w hymgyrch y tymor hwn.

Dim ond dau o 11 o gemau yn y Bencampwriaeth mae Paul Trollope wedi ennill wrth y llyw ac wedi iddyn nhw golli 2-0 yn Burton ddydd Sadwrn, mae Caerdydd ar hyn o bryd yn ail o waelod y tabl.

Dywedodd datganiad ar wefan swyddogol y clwb: “Gall Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd gadarnhau bod cytundeb Paul Trollope wedi cael ei derfynu ar unwaith.

“Hoffem ddiolch i Paul am ei ymdrechion a dymuno’r gorau iddo yn y dyfodol.

“Mae’r hyfforddwr cynorthwyol Lennie Lawrence a’r cyfarwyddwr perfformiad Ryland Morgans hefyd wedi gadael y clwb gyda’n dymuniadau gorau.

“Bydd cyhoeddiad ynghylch olynydd Paul yn cael ei wneud maes o law.”