Francesco Guidolin
Gyda’r sïon am fwriad i ddiswyddo’r rheolwr yn dew, Alun Rhys Chivers sy’n cynghori Abertawe i ymbwyllo wrth …

Fel cefnogwr pêl-droed Abertawe, mae’n anodd peidio mynd i ramantu ynghylch pa mor bell mae’r clwb wedi dod dros y degawd diwethaf. Ond union ddeng mlynedd i’r penwythnos hwn, fe gollodd yr Elyrch i Notts Forest yn yr Adran Gyntaf.

Pan gafodd y clwb eu dyrchafu i’r Uwch Gynghrair yn 2011, roedd Leon Britton ymhlith yr ychydig chwaraewyr o 2006 oedd dal yn y garfan. Roedd e erbyn hynny’n cael ei ystyried yn un o’r mawrion yn hanes Abertawe ac yn un o’r enwau i’w gynnwys yn awtomatig yn y tîm.

Mae’n amlwg nad oedd y rheolwr presennol Francesco Guidolin wedi darllen y llyfrau hanes ar ôl cael ei benodi. Fe gyfaddefodd sawl wythnos yn ôl nad oedd e’n ymwybodol o bwysigrwydd y chwaraewr lleiaf – ond y dylanwad mwyaf – ar y cae. Mae e’n sylweddoli hynny bellach, ond a yw’n rhy hwyr i’r Eidalwr?

Mae Guidolin bellach yn ei ganfod ei hun mewn sefyllfa lle mae angen, o bosib, i Abertawe guro Lerpwl er mwyn iddo achub ei swydd. Pwy fuasai wedi meddwl hynny ddeng mlynedd yn ôl? Rhyfedd o fyd….

Ond mae deuoliaeth yma. Oes, mae angen canlyniad da yn erbyn Lerpwl. Does dim amau hynny. Ond mae’r union ffaith fod perchnogion yr Elyrch yn gallu defnyddio gêm yn erbyn Lerpwl i roi pwysau ar y rheolwr yn dyst i ba mor bell mae’r clwb wedi dod, a hefyd i’r canlyniadau da gafodd Abertawe yn erbyn prif glybiau’r Uwch Gynghrair dros y blynyddoedd.

Guidolin heb gael parch

Ond rhaid dweud cyn mynd dim pellach nad yw’r clwb wedi trin yr Eidalwr â pharch. Fe fu gan Huw Jenkins a’i griw enw da am ddewis rheolwyr dros y blynyddoedd. Ond does ganddyn nhw ddim cystal enw am drin eu rheolwyr yn y modd gorau posib. Does ond angen gofyn i Garry Monk a Michael Laudrup. Cafodd y naill ei ddiswyddo mewn sefyllfa debyg i Guidolin, ond roedd yntau hefyd yn un o fawrion y clwb ac roedd ei ddiswyddo’n cael ei ystyried gan rai yn weithred o fradychu arwr. Roedd yr honiad fod Laudrup wedi clywed am ei ddiswyddo ar y teledu yn waeth fyth.

Yn achos Guidolin, mae e’n parhau dan bwysau tra bod adroddiadau bod y cyfarwyddwyr eisoes wedi cynnal trafodaethau â Bob Bradley am y posibilrwydd o’i olynu. Fe fu adroddiadau dros gyfnod o ddiwrnodau hefyd fod Ryan Giggs ar ei ffordd i Abertawe.

Ond mae Guidolin yn mynnu ei fod yn canolbwyntio’n llwyr ar y tîm a sicrhau bod perfformiadau’n gwella ar y cae. Roedd yr arwyddion eisoes yno yn erbyn Man City yn y gynghrair yr wythnos diwethaf. Do, fe gawson nhw ganlyniad hynod siomedig. Ond doedd y sgôr yn sicr ddim yn adlewyrchu’r perfformiad. Roedd y gic o’r smotyn yn erbyn yr Elyrch yn benderfyniad amheus, â dweud y lleiaf, ac yn sicr yn drobwynt yn y gêm.

Fe ddywedais yn fy mlog yr wythnos diwethaf y byddai’n rhaid barnu Guidolin ar yr wythnos a fu. Wel, dyma fi’n gwneud hynny. Mae’n rhaid rhoi mwy o amser i’r Eidalwr tra bod y perfformiadau – os nad y canlyniadau – yn mynd i’r cyfeiriad cywir. Ar ôl y gêm yn erbyn Lerpwl, fe fydd gan Abertawe bron i bythefnos i bwyso a mesur y sefyllfa yn ystod y toriad am y gemau rhyngwladol.

Ond dydy pethau ddim ar fin gwella ryw lawer o ran y rhestr gemau i’r Elyrch. Arsenal yw eu gwrthwynebwyr nesaf – a hynny ar eu tomen eu hunain yn yr Emirates. Unwaith eto, fe fyddai’r clwb yn barnu ar sail gêm yn erbyn tîm mawr. Ar ôl hynny, Watford a Stoke sy ar y gorwel. Llawer tecach fyddai barnu ar sail gemau yn erbyn timau y dylai’r Elyrch fod yn eu curo – timau y mae’n rhaid iddyn nhw gipio pwyntiau oddi arnyn nhw er mwyn goroesi.

Un apêl olaf. Cofiwch Fedi 29, 2006. Tipyn bach o berspectif plis, gyfarwyddwyr. Pwyll piau hi.