Mae tîm pêl-droed wedi atal ei hyfforddwr yn dilyn honiadau ei fod wedi derbyn taliad o £5,000 er mwyn helpu dod o hyd i le i chwaraewyr yn ei glwb.

Dywed clwb Barnsley ei fod wedi lansio ymchwiliad i honiadau yn y Daily Telegraph fod ei prif hyfforddwr Tommy Wright wedi derbyn yr arian mewn amlen yn ystod cyfres o gyfarfodydd gyda cwmni ffug o’r Dwyrain Pell.

Mae rheolwr Queens Park Rangers Jimmy Floyd Hasselbaink a pherchennog Leeds United Massimo Cellino hefyd wedi cael eu dangos mewn fideo newydd gan Daily Telegraph fel rhan o’i ymchwiliad cudd i lygredd mewn pêl-droed.

QPR

Mae’r Telegraph yn honni fod Jimmy Floyd Hasselbaink wedi gofyn am ffi o £55,000 i weithio i’r cwmni ffug sy’n ceisio gwerthu chwaraewyr i’r clwb.

Yn lluniau fideo gan y papur newydd mae’n gofyn am “ffigwr neis” o arian ar gyfer rôl, a oedd, yn ol y papur newydd yn cynnwys nifer o deithiau i gwrdd â’r cwmni yn Singapore.

Nid yw QPR wedi gwahardd Jimmy Floyd Hasselbaink gan ddweud fod gan y clwb “bob hyder” ond gan ychwanegu y bydd y rheolwr 44 mlwydd oed yn destun yn “ymchwiliad mewnol trylwyr.”

Yn ogystal, mae Jimmy Floyd Hasselbaink yn gwadu gwneud unrhyw beth o’i le a dywedodd mewn datganiad nad oedd yn gweld dim byd “anarferol” yn y darpar fargen gan nad oedd o wedi cytuno i wneud dim byd ond mynd i Singapore i wneud araith.

Leeds

Dywed y Telegraph hefyd ei bod wedi derbyn ffilm sy’n ymddangos i ddangos perchennog Leeds United yn egluro i gynrychiolwyr ffug gwmni o’r Dwyrain Pell sut y gallant osgoi rheolau trosglwyddo chwarawyr FA a Fifa.

Honnir bod y ffilm yn dangos Massimo Cellino yn awgrymu eu bod yn dod yn gyfranddalwyr y clwb er mwyn derbyn cyfran o ffioedd gwerthu chwaraewyr.

Mae rheolau FA a Fifa yn gwahardd perchnogaeth trydydd parti o chwaraewyr. Cafodd yr arfer dadleuol, a oedd yn golygu y gallai trydydd parti elwa pan fyddai chwaraewr yn cael ei werthu, ei wahardd gan yr FA yn 2008.

Mae’r honiadau yn rhan o ymchwiliad cudd y Telegraph i mewn i lygredd mewn pêl-droed, a arweiniodd at ymadawiad rheolwr Lloegr Sam Allardyce ddydd Mawrth.

Mae’r papur newydd hefyd wedi honni bod 10 o reolwyr wedi cymryd llwgrwobrwyon yn ystod yr ymchwiliad.