Mae rhagor o Americaniaid wedi ymuno â bwrdd cyfarwyddwyr Clwb Pêl-droed Abertawe, yn ôl cofnodion Tŷ’r Cwmnïau.

Cafodd y clwb ei brynu gan Steve Kaplan a Jason Levien dros yr haf – ac maen nhw’n rheoli 68% o’r clwb.

Robert Hernreich, cyn-gyd berchennog y Sacramento Kings, a’r datblygwr tai Romie Chaudhari yw’r ddau aelod newydd.

Does dim lle bellach i Brian Katzen o Dde Affrica na John van Zweden o’r Iseldiroedd.

Dydy Leigh Dineen, sydd â rôl o fewn y clwb o hyd, ddim ar y bwrdd cyfarwyddwyr erbyn hyn ychwaith.

Y tri arall sydd wedi gadael yw Gwilym Joseph, Don Keefe a Steve Penny, a ddaeth yn adnabyddus wrth iddo ddarllen datganiad Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr pan gafodd y clwb ei brynu oddi ar Tony Petty yn 2001.

Dydy hi ddim yn glir eto beth fydd swyddi’r Americaniaid newydd ar y bwrdd.

Mae Huw Jenkins, Martin Morgan, Gareth Davies a Huw Cooze yn dal i gynrychioli Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr ar y bwrdd.