Alun Rhys Chivers yn edrych ymlaen at yr her fawr sy’n wynebu Abertawe wrth iddyn nhw herio cewri Chelsea ddydd Sul…

Dim ond unwaith yn ei yrfa fel rheolwr y mae Francesco Guidolin wedi llwyddo i guro un o dimau Antonio Conte. A phan fydd y ddau Eidalwr, y naill yn rheolwr ar Abertawe a’r llall ar Chelsea, yn mynd ben-ben ddydd Sul, fe fydd angen ‘Italian Job’ o’r mwyaf ar Guidolin a’i dîm.

Yn y ffilm, sy’n serennu Michael Caine, roedd angen i’w gymeriad Charlie Croker a’i griw o ladron gasglu bariau o aur oddi ar y bws cyn iddo gwympo dros y dibyn.

Tra bod Conte wedi arwain ei dîm newydd i dair buddugoliaeth allan o dair yn yr Uwch Gynghrair mor belled, tri phwynt yn unig sydd gan yr Elyrch hyd yn hyn yn nhymor llawn cyntaf Guidolin wrth y llyw.

Gyda Guidolin yn wynebu dyfodol ansicr cyn arwyddo cytundeb newydd ddiwedd y tymor diwethaf, roedd adroddiadau fod ganddo ddiddordeb yn swydd rheolwr yr Eidal yn lle Conte, a arweiniodd ei dîm i wyth olaf Ewro 2016. Roedd hefyd yn cael ei gysylltu â’r swydd yn 2014 cyn i Conte gael ei benodi.

Ond mae’r ddau bellach yn canfod eu hunain yn mynd ben-ben am y nawfed tro erioed wrth i Chelsea, sy’n un o’r ffefrynnau i ennill yr Uwch Gynghrair ar ôl tymor siomedig yn 2015-16. Mae’r Llundeinwyr yn gydradd gyntaf gyda Man City a Man U, tra bod yr Elyrch yn bedwerydd ar ddeg.

Guidolin v Conte – hyd yn hyn

10/11/2008: Parma (Guidolin) 1 Bari (Conte) 1
4/4/2009: Bari (Conte) 0 Parma (Guidolin) 2
25/10/2009: Atalanta (Conte) 3 Parma (Guidolin) 1
21/12/2011: Udinese (Guidolin) 0 Juventus (Conte) 0
28/1/2012: Juventus (Conte) 2 Udinese (Guidolin) 1
19/1/2013: Juventus (Conte) 4 Udinese (Guidolin) 0
1/12/2013: Juventus (Conte) 1 Udinese (Guidolin) 0
14/4/2014: Udinese (Guidolin) 0 Juventus (Conte) 2

11/9/2016: Abertawe (Guidolin) ? Chelsea (Conte) ?

Y cast

Roedd yr Elyrch wedi colli eu capten Ashley Williams, Andre Ayew a Bafetimbi Gomis cyn i’r ffenest drosglwyddo gau, a doedd gan Guidolin fawr o ddylanwad wrth benderfynu pwy fyddai’n eu disodli. Alfie Mawson, amddiffynnwr 22 oed o Barnsley sy’n llenwi esgidiau’r capten. Ond mae Guidolin, a gyfaddefodd ar y pryd nad oedd e wedi clywed am Mawson, wedi dweud ei fod e “bron yn barod” am yr her o chwarae’n rheolaidd yn yr Uwch Gynghrair. Ond mae’r amddiffyn wedi ildio pum gôl mewn tair gêm, gan sgorio dwy gôl yn unig – a’r chwaraewr canol cae Leroy Fer wedi sgorio’r ddwy. Yn absenoldeb sgoriwr yn rheng flaen y cae, roedd sicrhau gwasanaeth amddiffynnwr profiadol yn bwysicach fyth i atal y goliau ben arall y cae. Amheus gen i bydd Abertawe’n gallu ‘parcio’r bws’.

Mae Borja Baston, a gostiodd £15.5 miliwn – sy’n record i’r clwb – yn dal i geisio profi ei ffitrwydd ar ôl cyrraedd o Atletico Madrid, ac mae’n debygol y bydd e ar y fainc ddydd Sul. Fernando Llorente yw’r ymosodwr arall sydd bellach ar lyfrau Abertawe. Roedd e’n aelod o garfan Sbaen yng Nghwpan y Byd 2010 ac Ewro 2012, ond dydy e ddim eto wedi edrych fel chwaraewr rhyngwladol yn ei dair gêm i Abertawe.

Ennill – neu colli’r plot?

Dyna ddigon am y ‘Spanish Job’. Yn ôl at y plot dan sylw. Ym mharc Crystal Palace y cafodd golygfa enwocaf ‘The Italian Job’ – y car yn ffrwydro –  ei ffilmio. Mae’r parc wyth milltir i ffwrdd o stadiwm Chelsea yn Stamford Bridge.

Fe orffennodd y ffilm oedd yn serennu Michael Caine ar ymyl dibyn. Wnaethon ni byth ddod i wybod beth oedd “great idea” ei gymeriad Charlie Croker. Ar ddechrau cyfnod pan fydd yr Elyrch yn wynebu Southampton, Arsenal, Man City a Lerpwl rhwng nawr a chanol mis Hydref, mae tymor Abertawe’n mynd yn nes ac yn nes at y dibyn. Wrth wynebu Chelsea ddydd Sul, mae angen “syniad gwych” ar Guidolin i achub y sefyllfa.