Mae Gareth Bale yn barod i danio ar drothwy ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd yn Rwsia yn 2018, yn ôl rheolwr Cymru, Chris Coleman.

Mae ymgyrch ragbrofol Cymru’n dechrau nos Lun wrth iddyn nhw herio Moldofa yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac fe fydd rhaid iddyn nhw wynebu Awstria, Serbia, Gweriniaeth Iwerddon a Georgia yn ystod y gemau rhagbrofol.

Roedd Bale yn allweddol i lwyddiant Cymru wrth iddyn nhw gyrraedd rownd gyn-derfynol Ewro 2016, a fe oedd y chwaraewr cyntaf ers 12 o flynyddoedd i sgorio ym mhob un gêm yng ngrwpiau Pencampwriaethau Ewrop.

Ond mae gwell eto i ddod gan Bale, yn ôl Coleman.

“Sgoriodd Gareth o fewn 75 o eiliadau i ddechrau gêm gyntaf Real [Madrid] y tymor hwn, ond dw i byth yn cael fy synnu ganddo fe.

“Dw i’n gwybod ei fod e’n gallu gwneud bron unrhyw beth a dw i’n credu bod Madrid yn gyffrous iawn am y dyfodol gyda Baleo.

“Maen nhw’n cydnabod fod ganddyn nhw rywun fydd yno am sbel a rhywun sy’n gallu ennill popeth.

“Mae e’n gwella o hyd ac o hyd. Gyda’i allu rhyfeddol, mae ganddo fe feddylfryd o’r radd flaenaf hefyd.

“Mae’n fformiwla sy’n llwyddo i Real Madrid ac i Gymru, a dw i’n meddwl y caiff e dymor da unwaith eto.”

Y to iau

Mae Cymru’n dechrau’r ymgyrch heb un arall o’u sêr, Aaron Ramsey ynghyd â Jonny Williams.

Ond mae Coleman yn gwybod fod ganddo fe ddau chwaraewr yn y garfan sydd â phwynt i’w brofi.

Ni chafodd Emyr Huws na Tom Lawrence mo’u dewis ar gyfer Ewro 2016, a doedden nhw ddim wedi bod yn chwarae’n gyson i’w clybiau.

Ond mae’r ddau wedi symud i glybiau newydd – Huws i Gaerdydd (o Wigan) a Lawrence i Ipswich (ar fenthyg o Gaerlŷr), ac mae Coleman yn credu y gall y ddau ohonyn nhw gyfrannu yn ystod yr ymgyrch newydd.

“Maen nhw’n ddau chwaraewr ifanc da a dw i’n disgwyl iddyn nhw gamu i fyny a chael effaith.

“Roedd Emyr yn siomedig nad oedd e yn y garfan ac roedd e’n agos iawn ati.

“Cafodd Tom flas ar bêl-droed mewn ymgyrch [tua diwedd gemau rhagbrofol Ewro 2016].

“Mae’n anodd pan y’ch chi’n ifanc a ddim yn chwarae i’ch clwb. Ry’n ni’n cofio hynny, ond gallan nhw wneud yn dda i ni.”