Ymunodd Hal Robson-Kanu â West Brom yn hwyr bnawn ddoe
Wrth i’r ffenestr drosglwyddiadau gau’n glep nes mis Ionawr, mae Owain Schiavone’n bwrw golwg dros y symudiadau Cymreig o ddiddordeb.

Er mai dim ond llond llaw o gemau sydd wedi bod hyd yma, i nifer, mae diwrnod mwyaf cyffrous y tymor pêl-droed eisoes wedi bod. Do, fe gaeodd y ffenestr drosglwyddo neithiwr ac fe ddylai’r cyfrifon Twitter niferus sy’n honni bod â gwybodaeth ecsgliwsif am ba chwaraewyr sy’n denu diddordeb pa glwb, dawelu am y tro…o leiaf nes i’r ffenestr nesaf agor ym mis Ionawr.

Yn nghanol y clecs, yr arian mawr yn newid dwylo, a’r gohebwyr Sky yn stelcian tu allan i faesydd pêl-droed amrywiol, mae nifer o Gymry sy’n ennill eu plwyf yng nghynghreiriau Lloegr wedi symud i borfeydd brasach.

Yr enwau mawr

Mae rhai o chwaraewyr prif garfan Cymru wedi symud clybiau dros y ddeufis diwethaf.

Ar yr unfed awr ar ddeg, er mawr rhyddhad i bawb, mae Hal Robson-Kanu wedi setlo ar West Brom fel ei gartref newydd ar ôl i’w gytundeb â Reading ddod i ben yng nghanol yr Ewros.

Yn sicr fe roddodd Robson-Kanu ei hun yng nghanol y ffenest siop gydag Y GÔL YNA yn erbyn Gwlad Belg…ac mae’n debyg bod diddordeb yn yr ymosodwr o bedwar ban byd. Os felly, mae West Brom, fydd yn ymladd y gwymp o’r Uwch Gynghrair eleni, yn ddewis rhyfedd…a beryg bod angen asiant newydd ar Hal.

Y trosglwyddiad Cymreig mwyaf drudfawr oedd Joe Allen o Lerpwl i Stoke am £13m. Bargen a hanner i Stoke a’u rheolwr o Gymro, Mark Hughes a bydd ‘Pirlo Penfro’ yn ganolog i’w gynlluniau.

Jonny Williams ydy un o chwaraewyr mwyaf cyffrous carfan Chris Coleman, ond mae’n methu’n glir ag ennill ei le yn nhîm Crystal Palace, felly mae nôl ar fenthyg gydag Ipswich yn y bencampwriaeth am y pedwerydd tro.

Gobeithio y gall Emyr Huws anghofio am ei siom o golli ei le yng ngharfan Cymru ar gyfer yr Ewros, a chreu argraff gyda Chaerdydd, ble bydd yn ymuno a Jazz Richards.

Rhai i’w gwylio

Mae tipyn o sôn am ymosodwr ifanc West Brom, Tyler Roberts, ers rhai blynyddoedd. Mae’r chwaraewr dwy ar bymtheg oed wedi bod yn ymarfer gyda thîm cyntaf Cymru, ac wedi bod ar y fainc i West Brom yn yr Uwch Gynghrair. Mae ei reolwr, y Cymro Tony Pulis, wedi ei yrru ar fenthyg i’r adran gyntaf gyda Rhydychen ac fe sgoriodd ei gôl broffesiynol gyntaf nos Fawrth wrth i’w dîm guro Exeter City yn Nhlws Checkatrade. Os fydd Roberts yn chwarae’n rheolaidd, ac yn chwarae’n dda, fe allai fod yn cystadlu â Robson-Kanu am safle yn nhîm cyntaf West Brom a Chymru’n fuan.

Difyr gweld ymosodwr ifanc arall, Wes Burns, yn mynd ar fenthyg i Aberdeen yn Uwch Gynghrair yr Alban. Yn ôl ei hyfforddwr gyda Bristol City, Lee Johnston, gwnaed y penderfyniad iddo fynd yno er mwyn cael blas ar bêl-droed Ewropeaidd ac ar awyrgylch gemau mawr yn erbyn timau fel Celtic a Rangers. Er i’w dîm golli o 4-1 yn erbyn Celtic, mae rheolwr Aberdeen Derek McInnes wedi bod yn canmol cyfraniad Burns a gobeithio y gall greu argraff yn ystod y tymor.

Timau Cymreig y Bencampwriaeth

Mae ‘na deimlad reit Gymreig i sawl tîm yn y Bencampwriaeth eleni, ac mae’n werth cadw golwg ar yr hyn sy’n digwydd ar ail reng pyramid Lloegr.

Yn ogystal â Jonny Williams, mae Tom Lawrence wedi ymuno ag Ipswich ar fenthyg o Gaerlŷr ac os all y ddau gadw’n ffit bydd yn ddiddorol gweld sut maen nhw’n cyfuno yn ymosod bois y tractors.

Mae ‘na bresenoldeb Cymreig amlwg yn Barnsley, gyda dau Gymru yn yr ymosod iddyn nhw yng ngemau cyntaf y tymor – Tom Bradshaw a Marley Watkins a ddenodd gynnig o £1m gan Ipswich ddoe yn ôl pob sôn. Mae’r golwr Adam Davies hefyd yn gymwys i chwarae dros Gymru.

Da gweld Caerdydd yn buddsoddi mewn gwaed Cymreig hefyd gydag Emyr Huws a Jazz Richards, tra bod Declan John wedi dechrau’r bedair gêm gyntaf o’r tymor ar ôl bod ar fenthyg yn Chesterfield llynedd.

Cofio rhain?

Mae cwpl o enwau fu’n amlwg yng ngharfan Cymru ar un pryd wedi pacio eu bagiau a symud i glybiau newydd.

Mae Lewis Price wedi symud o Sheffield Wednesday i Rotherham yn rhad ac am ddim. Enillodd y golwr, sydd bellach yn 32 oed, 11 o gapiau dros Gymru, y diwethaf yn erbyn Croatia yn Hydref 2012.

A beth am Lewin Nyatanga? Yr amddiffynnwr canol oedd y cyntaf o’r to o chwaraewyr ifanc a gafodd eu taflu i mewn i dîm cyntaf Cymru gan John Toshack – yn 17 mlwydd a 195 diwrnod oed, Nyatanga oedd y chwaraewr ieuengaf i chwarae dros ei wlad pan chwaraeodd ei gêm gyntaf yn erbyn Paraguay ym Mawrth 2006. Ddeufis yn ddiweddarach fe dorrwyd ei record yntau gan foi arall o’r enw Gareth Bale…a teg dweud bod eu gyrfaoedd wedi mynd i gyfeiriadau go wahanol ers hynny.

Yn ddim ond 27 oed o hyd, mae Nyatanga wedi ennill 34 o gapiau dros Gymru, ond y diwethaf yn 2011 yn nyddiau cynnar Gary Speed fel rheolwr. Pwy a ŵyr, efallai y gall symud ar fenthyg i Northampton fod yn sbardun ar gyfer adfer ei yrfa ryngwladol. Wel, mae pethau rhyfeddach wedi digwydd!

 

Trosglwyddiadau Cymreig haf 2016

Awst 2016

Hal Robson-Kanu (Reading i West Brom) Am ddim

Aaron Collins (Wolves i Notts County) Ar fenthyg

Jonny Williams (Crystal Palace i Ipswich) Ar fenthyg

Simon Church (MK Dons i Roda JC)

Rhoys Wiggins (Bournemouth i Birmingham) Ar fenthyg

Tom Lawrence (Caerlŷr i Ipswich) Ar fenthyg

Connor Roberts (Abertawe i Bristol Rovers) Ar fenthyg

Shaun MacDonald (Bournemouth i Wigan) Ffi heb ei ddatgelu

Emyr Huws (Wigan i Gaerdydd) Ffi heb ei ddatgelu

Lewis Nyatanga (Barnsley i Northampton) Ar fenthyg

Josh Sheehan (Abertawe i Gasnewydd) Ar fenthyg

Lloyd Jones (Lerpwl i Swindon) Ar fenthyg

Arron Davies (Exeter i Accrington) Am ddim

 

Gorffennaf 2016

George Williams (Fulham i MK Dons) Ar fenthyg

Adam Matthews (Sunderland i Bristol City) Ar fenthyg

Tyler Roberts (West Bro mi Oxford) Ar fenthyg

Joe Allen (Lerpwl o Stoke City) £13m

Andrew Crofts (Brighton i Charlton) Am ddim

Jazz Richards (Fulham – Caerdydd) Cyfnewid

Lewis Price (Sheffield Wednesday i Rotherham) Am ddim

Tom Bradshaw (Walsall i Barnsley) Ffi heb ei ddatgelu

Wes Burns (Bristol City i Aberdeen) Ar fenthyg

Danny Ward (Lerpwl i Huddersfield) Ar fenthyg

Ryan Hedges (Abertawe i Yeovil) Ar fenthyg