Osman Roberts (llun y Gymdeithas Bêl-droed)
Mae ymosodwr Arsenal a Ffrainc Thierry Henry wedi cael ei enwi fel cynorthwy-ydd i hyfforddwr newydd Gwlad Belg, Roberto Martinez.

Bydd Henry, a oedd yn rhan o dîm buddugol Cwpan y Byd 1998 Ffrainc, yn rhan o staff ystafell gefn ochr yn ochr â Graeme Jones, cynorthwy-ydd Roberto Martinez yn Abertawe, Wigan ac Everton.

Mae gan Wlad Belg un o’r timau mwyaf talentog y byd ond lwyddodd Cymru i’w trechu nhw yn rownd yr wyth olaf yn Ewro 2016 dros yr haf.

Hyfforddi yng Nghymru

Un peth sydd gan Thierry Henry a Roberto Martinez yn gyffredin yw bod y ddau wedi gwneud eu trwyddedau hyfforddi o dan oruchwyliaeth Osian Roberts a Chymdeithas Bêl-droed Cymru ym Mharc y Ddraig yng Nghasnewydd.