Manteisiodd yr Adar Gleision ar noson drychinebus i amddiffynnwr Blackburn, Shane Duffy wrth iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth o 2-1 yng Nghaerdydd.

Sgoriodd Duffy, amddiffynnwr cenedlaethol Gweriniaeth Iwerddon, ddwy gôl i’w rwyd ei hun yn yr hanner cyntaf cyn gweld cerdyn coch yn hwyr yn yr ornest.

Tarodd ergyd gan Declan John y postyn ar ôl 14 munud cyn mynd i gefn y rhwyd oddi ar gorff Duffy i roi’r Cymry ar y blaen.

Byddai Duffy wedi bod yn falch o’i ail ymdrech pe bai hi ym mhen arall y cae, wrth iddo benio cic rydd gan Peter Whittingham i gefn y rhwyd.

Hon oedd ei drydedd gôl i’w rwyd ei hun mewn dwy gêm, ar ôl ei anffawd yn erbyn Wigan ddydd Sadwrn.

Roedd y timau’n gyfartal drwy gôl i gyn-ymosodwr Abertawe, Danny Graham ar ôl 77 munud, cyn i Duffy weld ail gerdyn melyn bum munud i mewn i’r amser a ganiateir am anafiadau, a hynny am gicio’r bêl at wrthwynebydd.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Blackburn ar waelod y Bencampwriaeth, a bod pump awr a hanner heb gôl wedi dod i ben i Gaerdydd wrth iddyn nhw godi i bedwerydd ar ddeg yn y tabl.